Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Newid tenantiaeth

​​​​Mae'r cyfrifoldeb am dalu'r Dreth Gyngor yn dibynnu ar ba fath o drefniant gosod rydych chi wedi'i sefydlu.

Os ydych yn rhentu'r eiddo cyfan i un person neu deulu, cyfrifoldeb y person neu'r teulu yw talu'r Dreth Gyngor a bydd bil yn cael ei anfon at y person/teulu.

Os ydych yn rhentu'r eiddo cyfan i fwy nag un person ond tenantiaid ar y cyd ydynt, eu cyfrifoldeb hwy yw talu'r Dreth Gyngor yn y rhan fwyaf o amgylchiadau a byddwn yn anfon bil atynt.

Os ydych yn rhentu eiddo i nifer o bobl a bod gan bob un gytundeb tenantiaeth unigol gyda chi, mae'r eiddo'n cael ei ystyried yn Dŷ Amlfeddiannaeth at ddibenion y Dreth Gyngor. Chi, fel y landlord, fydd yn gyfrifol am dalu'r Dreth Gyngor a byddwch yn cael y bil.

Er mwyn sicrhau eich bod yn talu'r swm cywir o'r Dreth Gyngor, mae angen i ni wybod pryd mae eich amgylchiadau'n newid. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthym os ydych yn landlord a bod gennych denant newydd.


Rhowch wybod i ni am newid tenantiaeth

Rhowch wybod i ni am newid tenantiaeth os ydych chi’n berchennog neu asiant eiddo.

Perchennog – Ffurflen newid tenantiaeth





Asiant – Ffurflen newid tenantiaeth ​​ ​

​​

​​

© 2022 Cyngor Caerdydd