Rydym yn rheoli dau safle preswyl ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yng Nghaerdydd, sef Rover Way a Shirenewton. Gyda’i gilydd mae gan y safleoedd hyn gyfanswm o 80 o leiniau.
Mae gan bob llain ei wal ffiniol ei hun, gât ac adeilad amlbwrpas sy’n cynnwys cegin ac ystafell ymolchi. Ceir cyflenwad trydan drwy fesuryddion rhagdalu yn y ddau safle, ac yn Shirenewton darperir cysylltiadau dŵr a charthffosiaeth ar gyfer y prif gartrefi symudol.
Mae swyddfa dai ar y ddau safle lle gall preswylwyr gysylltu â’r adran rheoli tai a staff cynnal a chadw’r safle. Mae cyfleusterau cymunedol ar gael ar y ddau safle.
I gael rhagor o wybodaeth am y safle a sut i wneud cais am lain, ewch i wefan Tai CaerdyddDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.
Mewn perthynas â’r galw yn y dyfodol, mae’r Cyngor wedi ymgymryd ag Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr, yn unol ag Adran 102 Deddf Tai (Cymru) 2014, sydd wedi ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Mae gwaith ar y gweill nawr i ddiwallu’r anghenion a nodwyd.
Lawrlwytho’r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (868kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Talu eich rhent safle
Defnyddiwch ein system talu ar-lein ddiogel i gwneud taliad i'r cyngor.
Sicrhewch fod gennych rhif eich cyfrif wrth law (8 rhif wedi'u dilyn gan lythyren).