Gan ddefnyddio Gorchymyn Rheoli Traffig Arbrofol (GRhTA), gallwn gyflwyno cynllun arbrofol a rhoi cynnig arno cyn ei wneud yn barhaol.
Efallai y byddwn ni am dreialu cynllun oherwydd gallai fod:
- y cyntaf o'i fath yng Nghaerdydd,
- yn aneffeithiol neu â sgîl-effeithiau annerbyniol,
- angen newidiadau cyflym neu gael ei waredu, neu
- nid yw’n rhan o ddeddfwriaeth arferol.
Beth yw hyd y cynllun
Hyd arferol GRhTA a chynllun arbrofol yw hyd at 18 mis.
Yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn monitro'r cynllun i weld a yw'n gweithio.
Ymgynghoriad
Cyn cyflwyno cynllun arbrofol, efallai y byddwn yn cynnal:
- arolygon defnyddwyr,
- ymgynghoriadau, a
- monitro parcio, traffig a cherddwyr.
Gall ymgynghoriadau olygu siarad â:
- phreswylwyr,
- busnesau,
- cymdeithasau crefyddol a chymdeithasol, a
- defnyddwyr eraill yr ardal.
Monitro
Ar ôl y treial 18 mis, rydym yn cynnal mwy o arolygon ac ymgynghoriadau i wirio:
- newidiadau, effeithiau a manteision, a
- barn trigolion, busnesau a defnyddwyr eraill.
Yna gallwn benderfynu a ddylid gwneud y cynllun yn barhaol ai peidio.
Cynlluniau arbrofol cyfredol