Boed hynny am resymau’n ymwneud â’ch iechyd neu i arbed arian, byddai’r rhan fwyaf o ysmygwyr yn dymuno rhoi’r gorau iddi.
Mae rhoi’r gorau i ysmygu yn cynnwys llawer o fanteision gan gynnwys:
- llai o risg o gael canser, clefyd y galon a’r ysgyfaint,
- gwella iechyd yn gyffredinol, a
- gwella lefelau ffrwythlondeb.
Byddwch yn teimlo’r manteision o stopio 'smygu yn syth. Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl:
- 8 awr - Bydd lefelau'r nicotin a charbon monocsid yn eich gwaed wedi lleihau gan 50%. Bydd eich lefelau ocsigen yn normal eto.
- 24 awr – Bydd carbon monocsid yn gadael y corff, bydd yr ysgyfaint yn dechrau gwaredu llysnafedd a gweddillion eraill sydd ynghlwm wrth ysmygu.
- 48 awr – Does dim nicotin ar ôl yn y corff a byddwch yn gallu blasu a gwynto’n llawer gwell.
- 72 awr – Byddwch yn ei chael hi’n haws i anadlu. Bydd y tiwbiau bronciol yn dechrau ymlacio a bydd eich lefelau egni’n cynyddu.
- 2-12 wythnos – Cylchrediad gwell.
- 3-9 mis – Bydd problemau tagu, gwichian ac anadlu yn gwella wrth i swyddogaeth yr ysgyfaint gynyddu gan hyd at 10%.
- Blwyddyn – Bydd y risg o gael trawiad ar y galon yn hanner o'i gymharu â rhywun sy'n 'smygu.
- 10 mlynedd – Bydd y risg o ganser ar yr ysgyfaint yn hanner o'i gymharu â rhywun sy'n 'smygu.
- 15 mlynedd – Risg o gael trawiad ar y galon yr un peth â rhywun sydd heb 'smygu erioed.
Mae plant sydd â rhieni nad ydynt yn ysmygu yn llai tebygol o ddioddef broncitis, niwmonia, asthma, llid yr ymennydd a haint yn y glust.
Pa gymorth sydd ar gael?
Os hoffech roi’r gorau i ysmygu, gallwch lwyddo gyda help gan eich meddyg teulu neu Helpa fi i StopioDolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Mae Helpio fi i StopioDolen yn agor mewn ffenestr newydd yn wasanaeth GIG am ddim a ariennir ac a redir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r gwasanaeth yn cynnig cyngor a gwasanaethau i ddiogelu a gwella iechyd a lles pobl yng Nghymru.
0800 085 2219
Chwilio am wybodaeth a chymorth yng Nghaerdydd i’ch helpu i roi’r gorau i ysmyguDolen yn agor mewn ffenestr newydd