Mae iechyd a lles meddyliol da yn hanfodol i bob agwedd ar eich bywyd, o iechyd corfforol a lles cyffredinol i’r ffordd yr ydym yn ffurfio perthnasoedd neu sut yr ydym yn perfformio yn y gwaith neu ym myd addysg.
Yn gyffredinol, gallwn ddisgrifio lles meddyliol fel teimlo'n gadarnhaol, bodlon, cynhyrchiol a gallu ymdopi â straen a sefyllfaoedd anodd o ddydd i ddydd.
Pwy sy’n cael ei effeithio?
Bydd problemau iechyd meddwl yn effeithio hyd at 1 person ym mhob 4 ar ryw adeg yn ystod eu bywyd. Gall y problemau amrywio o ofidiau a phryderon beunyddiol i gyflyrau difrifol, hirdymor megis iselder difrifol, anhwylder deubegynol, seicosis a sgitsoffrenia.
Achos y rhan fwyaf o'r problemau hyn yw sefyllfaoedd llawn straen, megis problemau ariannol neu golli anwylyd. Er y gall y teimladau hyn fod yn ddwys iawn, yn aml nid ydynt ond yn para dros dro. Gall y cymorth priodol wneud gwahaniaeth mawr o ran eu datrys.
Pa gymorth sydd ar gael?
Mae amrywiaeth eang o wasanaethau ar gael yng Nghaerdydd i helpu pobl â phroblemau iechyd meddwl.
Os ydych yn pryderu bod gennych chi neu rywun yr ydych chi'n ei adnabod broblem iechyd meddwl, dylech gysylltu â’ch meddygfa leol.
Os oes angen i chi siarad neu weld rhywun ynghylch eich iechyd meddwl y tu allan i oriau meddygfa a hynny ar frys, gallwch fynd i’ch adran damweiniau ac achosion brys neu ffoniwch 999 lle bo’r angen.