Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Pam ddylwn i bleidleisio?

Eich pleidlais yw eich llais. 

Mae eich pleidlais yn caniatáu i chi gael dweud eich dweud ynglŷn â sut mae'r wlad yn cael ei rhedeg. P’un a ydych chi’n pleidleisio mewn etholiad neu refferendwm, mae eich pleidlais yn bwysig. 

Mae pleidleisio yn rhoi llais i chi dros bwy sy'n gwneud penderfyniadau ar faterion sy'n effeithio arnoch chi.

Pan fyddwch chi'n pleidleisio, rydych chi'n helpu i ethol cynrychiolwyr a fydd yn rhedeg y wlad ar eich rhan. Mae Aelodau Etholedig yn gwneud penderfyniadau ar ystod eang o faterion, gan gynnwys y GIG, tai, addysg, materion tramor, amddiffyn, a'r amgylchedd. 

Pan fyddwch chi’n pleidleisio rydych chi'n helpu i benderfynu pwy fydd â’r grym i:

  • wneud rheolau a chyfreithiau am faterion sy'n effeithio arnoch chi
  • penderfynu sut mae ein gwlad yn cael ei rhedeg

Pleidleisio mewn etholiadau

Mae etholiad yn gyfle i chi ddefnyddio'ch pleidlais i ddewis y person neu'r blaid wleidyddol sydd, yn eich barn chi, yn cynrychioli’ch barn chi agosaf.

Yng Nghaerdydd, gallwch bleidleisio mewn:

  • Etholiadau cyngor lleol, i ddewis pwy fydd yn eich cynrychioli chi a'ch ward etholiadol yng Nghyngor Caerdydd
  • Etholiadau'r Senedd, i ddewis pwy fydd yn eich cynrychioli chi, eich ethol​aeth a'ch rhanbarth yn y Senedd
  • Etholiadau Cyffredinol y DU, i ddewis pwy fydd yn eich cynrychioli chi a’ch etholaeth yn Senedd y DU yn San Steffan
  • Etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu, i ddewis pwy fydd yn gwirio gwaith y Prif Gwnstabliaid a'r heddlu lle rydych chi’n byw


Mae gan rai ardaloedd yng Nghaerdydd gyngor cymuned hefyd. Os ydych chi'n byw yn un o'r ardaloedd hyn, rydych chi hefyd yn cael pleidleisio ar bwy fydd yn eich cynrychioli chi a'ch ardal leol yn eich cyngor cymuned.

Pleidleisio mewn refferendwm

Mae refferendwm yn gyfle i chi ddefnyddio eich pleidlais i ateb cwestiwn sy'n effeithio ar bawb yn y wlad.

Mae penderfyniadau mawr am y wlad a'r ffordd mae pethau'n gweithio fel arfer yn cael eu gwneud gan y bobl rydych chi'n pleidleisio drostyn nhw mewn etholiad.

Fodd bynnag, weithiau mae'n bwysig gwybod beth mae pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn ei feddwl am gwestiwn penodol. Defnyddir refferendwm fel arfer ar gyfer cwestiynau 'mawr', lle gofynnir i bawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio am eu barn.

! Mae'n rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio i gael pleidleisio mewn unrhyw etholiad neu refferendwm y DU. 

​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd