I bleidleisio mewn unrhyw etholiad neu refferendwm y DU, mae'n rhaid eich bod wedi’ch cofrestru i bleidleisio. Mae'n hawdd iawn cofrestru i bleidleisio ac nid yw’n cymryd mwy na 5 munud fel arfer.
Dim ond unwaith mae angen i chi gofrestru - nid ar gyfer pob etholiad. Bydd angen i chi gofrestru eto os ydych wedi newid eich enw, eich cyfeiriad neu'ch cenedligrwydd.
I gofrestru gofynnir i chi am y manylion canlynol:
- eich enw llawn
- eich cyfeiriad post
- eich dyddiad geni
- eich rhif yswiriant gwladol (os ydych yn 16 oed neu'n hŷn)
Mae eich rhif Yswiriant Gwladol i'w weld ar waith papur swyddogol fel slipiau cyflog neu lythyrau am fudd-daliadau neu gredydau treth.
Os na allwch chi ddarparu unrhyw un o'r manylion hyn am unrhyw reswm, efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi am ragor o wybodaeth.
Os ydych chi wedi darparu eich cyfeiriad e-bost, dylech gael e-bost cadarnhau ar ôl i chi wneud cais i gofrestru.
Os nad ydych chi wedi rhoi cyfeiriad e-bost, byddwch yn derbyn llythyr drwy’r post.
Cymorth i gofrestru ar-lein
Ydych chi'n gymwys i gofrestru i bleidleisio?
Gallwch chi gofrestru i bleidleisio os ydych yn byw yng Nghaerdydd ac yn 14 oed neu'n hŷn, a’ch bod yn:
- Ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig, neu
- Dinesydd o'r Gymanwlad sydd â chaniatâd i ddod neu i aros yn y DU neu nad oes angen caniatâd o'r fath arno, neu
- Gwladolyn tramor sydd â chaniatâd i ddod neu i aros yn y DU neu nad oes angen caniatâd o'r fath arno, neu
- Dinesydd yr Undeb Ewropeaidd
Os ydych chi’n fyfyriwr, byddwch chi’n gallu cofrestru yn eich cyfeiriad cartref a'ch cyfeiriad yn ystod y tymor.
Ydych chi eisoes wedi cofrestru?
Os nad ydych yn siŵr a ydych wedi cofrestru ai peidio, byddwn yn gallu helpu. Cysylltwch â ni.
Cofrestru drwy'r post
Os na allwch chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen, gallwch gysylltu â ni i ofyn am argraffiad o'r ffurflen hon.
Cofrestru dros y ffôn
Gallwch chi gofrestru trwy ffonio 029 2087 2087.
Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 4pm.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth, cysylltwch â ni.
Ffôn: 029 2087 2088
E-bost: gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk
Gwasanaethau Etholiadol
Ystafell 263, Neuadd y Sir,
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW