Cewch hyd i wybodaeth am hysbysiadau defnydd dros dro ac achlysurol.
Hysbysiadau defnydd dros dro
Gall gweithredwr gamblo ddefnyddio’r safle at ddibenion gamblo dros dro, pan nad oes trwydded ar waith. Ymhlith y safleoedd all fanteisio ar hyn mae gwestai, canolfannau arddangos, canolfannau cynadleddau a lleoliadau chwaraeon.
Mae'r hysbysiad yn caniatáu gamblo ar y safle am hyd at 21 diwrnod yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis.
Rhaid i’r hysbysiad gael ei gyflwyno i’r awdurdod trwyddedu o leiaf 3 mis ac 1 diwrnod cyn y diwrnod y bydd y digwyddiad gamblo’n cael ei gynnal, a rhaid copïo’r canlynol i mewn:
- Y Comisiwn Gamblo
- yr Heddlu
- Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi; ac, os yn berthnasol
- unrhyw awdurdod trwyddedu arall yn yr ardal lle mae’r eiddo.
Cyn gwneud cais dylech ddarllen y
nodiadau canllaw ar Ddeddf Gamblo 2005.
Ffurflen gais Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro
Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd i ni yn y post neu mewn person:
Trwyddedu,
Cyngor Caerdydd,
Neuadd y Sir,
Glanfa'r Iwerydd,
Caerdydd,
CF10 4UW
Ffioedd a chostau trwyddedau gamblo
Gallwch dalu fel a ganlyn:
- Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig – 0300 123 6696)
- Sieciau (yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’)
- Gallwch hefyd dalu drwy BACS:
Cod Didoli 52-21-06
Rhif y Cyfrif. 20408838
Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-frenhines, Caerdydd, CF10 2GR
Rhowch wybod i ni am y cyfeirnod a’r dyddiad talu os ydych yn talu drwy BACS fel y gallwn ddod o hyd i’r taliad.
Hysbysiadau defnydd achlysurol
Gallwch ddefnyddio hysbysiad defnydd achlysurol os bydd betio’n digwydd am 8 diwrnod neu lai yn ystod y flwyddyn calendr ar y ‘trac’ ac nad oes trwydded betio trac ar waith.
Dylai perchennog y lleoliad neu’n gweinyddwr digwyddiadau roi gwybod i awdurdod trwyddedu’r cyngor a’r heddlu. Nid oes modd gwrthwynebu ac nid oes cyfyngiad amser ar roi hysbysiad – gallai gael ei roi ar ddiwrnod y digwyddiad.
Cyn gwneud cais dylech ddarllen y
nodiadau canllaw ar Ddeddf Gamblo 2005.
Ffurflen gais hysbysiad defnydd achlysurol
Cwblhewch y ffurflen berthnasol a’i dychwelyd i ni yn y post neu mewn person:
Trwyddedu
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Ddinas
Caerdydd
CF10 3ND
Ffioedd a chostau trwyddedau gamblo
Gallwch dalu fel a ganlyn:
- Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig – 0300 123 6696)
- Arian parod (mewn person yn unig, peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post)
- Sieciau (yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’)
- Gallwch hefyd dalu drwy BACS:
Cod Didoli 30-91-63
Rhif y Cyfrif. 01467509
Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-frenhines, Caerdydd, CF10 2GR
Rhowch wybod i ni am y cyfeirnod a’r dyddiad talu os ydych yn talu drwy BACS fel y gallwn ddod o hyd i’r taliad.
Os hoffech ragor o help neu gyngor cysylltwch â ni.
Cysylltu â ni
Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir
Ffôn: 0300 123 6696. Dilynwch yr opsiynau ar gyfer Trwyddedu Caerdydd.
Trwyddedu Cyngor Caerdydd
Ffôn: 029 2087 1651
Mae’r llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10am a 3pm.