Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ymuno â llyfrgell


Ymunwch â’ch llyfrgell leol am ddim a chael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau.


Gallwch fenthyg llyfrau ac eLyfrau, a defnyddio'r cyfrifiaduron am ddim, ond rydym yn codi tâl am wasanaethau eraill fel benthyca CDs a DVDs.  

Prawf adnabod 

Bydd angen i chi ymweld â hyb neu lyfrgell i gasglu eich cerdyn llyfrgell.  Dewch ag un o'r mathau canlynol o brofion adnabod gyda chi:
  • Trwydded yrru
  • Cerdyn debyd neu gredyd
  • Bil trydan/nwy/dŵr
  • Cerdyn neu lyfryn budd-dal 
  • Cyfriflen banc neu gerdyn credyd
  • ​Pasbort
  • Cerdyn UMC neu fyfyriwr, gan gynnwys Cerdyn Adnabod Myfyrwyr Rhyngwladol (ISIC) neu Gerdyn Teithio Ieuenctid Rhyngwladol (IYTC)











​Os ydych chi o dan 16 oed bydd angen i'ch rhiant neu ofalwr ddangos un math o brawf adnabod a llofnodi'r cais.

Os ydych chi eisoes yn aelod o wasanaeth llyfrgell arall yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, gallwch ymuno â Llyfrgelloedd Caerdydd drwy gyflwyno eich cerdyn llyfrgell dilys presennol. 

Adnewyddu ac eitemau hwyr









​Mae llyfrau'n cael eu hadnewyddu'n awtomatig ar hyn o bryd, sy'n golygu na fydd dirwyon hwyr yn berthnasol fel arfer.
Dros dro yw hyn, ac mae'n agored i newid.​​

​​Os nad ydych wedi gorffen gyda'r eitem rydych wedi'i benthyg, mae’n bosib y gallwch ei hadnewyddu, ar yr amod nad yw wedi'i chadw gan rywun arall. Gallwch adnewyddu'r llyfr drwy: 





Bydd angen eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN arnoch os ydych chi'n adnewyddu ar-lein.
Os ydych chi wedi anghofio’ch PIN, cysylltwch â ni.Dylech gynnwys rhif eich cerdyn llyfrgell os ydych chi’n ei wybod.​

Cymerwch olwg ar ddirwyon a thaliadau llyfrgell am y wybodaeth ddiweddaraf.

​Nid oes dirwyon ar gyfer llyfrau plant, ond dewch â nhw'n ôl atom mor agos i’r dyddiad â phosib, os gwelwch yn dda.


Cysylltu â ni​


Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ymuno â llyfrgell, neu os ydych chi wedi anghofio eich PIN, gallwch gysylltu â ni drwy’r ffurflen hon. Dylech gynnwys rhif eich cerdyn llyfrgell os ydych chi’n ei wybod.

​​Cysylltu â ni





© 2022 Cyngor Caerdydd