Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwasanaeth Cynghori

​Gallwch gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau cynghori o Hybiau Caerdydd. 

Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith ​​​ 

Mae’r Gwasanaeth i Mewn i Waith​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yn cynnig cymorth cyflogaeth a chymorth digidol i unigolion sy’n chwilio am gyflogaeth neu sydd eisiau uwchsgilio.

Gall y gwasanaeth gynnig cymorth a chyngor ar: 
  • Ysgrifennu CV
  • Ffurflenni cais a llythyrau eglurhaol
  • Chwilio am Swydd
  • Cymorth cyflogaeth
  • Technegau cyfweld
  • Ymgeisio am Gredyd Cynhwysol
  • Hyfforddiant sgiliau gwaith am ddim 
  • Cyllid gofal plant, teithio a threuliau eraill (yn dibynnu ar gymhwysedd)   
  • ​Dechrau eich busnes eich hun
  • Cyfleoedd gwirfoddoli 
  • Cyfleoedd lleoliadau gwaith


Y Gwasanaeth Cyngor Ariannol​

Os ydych chi’n cael trafferth rheoli eich arian, gall Gwasanaeth Cyngor Ariannol Caerdydd​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd gynnig help a chefnogaeth mewn nifer o feysydd fel cyllidebu, gwneud y gorau o incwm a rheoli dyledion.

Gwasanaeth Cynghori Caerdydd ​


Mae Gwasanaeth Cynghori Caerdydd (GCC) yn cynnwys y Ganolfan Cyngor ar Bopeth​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd a Chyngor Speakeasy​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd. ​Mae'r gwasanaeth yn cynnig cyngor diduedd, annibynnol, cyfrinachol am ddim i bawb ynghylch eu hawliau a'u cyfrifoldebau.

Gall y gwasanaeth roi cymorth ar:
  • Fudd-daliadau Lles
  • Dyled
  • Tai
  • Teulu a pherthnasoedd
  • Cyfraith Cyflogaeth
  • Mewnfudo
  • Gwahaniaethu a 
  • Materion Defnyddwyr












Cymerwch olwg ar restr o leoliadau ac oriau agor Gwasanaeth Cynghori Caerdydd.





© 2022 Cyngor Caerdydd