Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gofal iechyd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg

​Ar ôl cyrraedd, dylech ofyn am help gan eich noddwr, neu Weithiwr Cymorth y Cyngor, i ddod o hyd i feddygfa leol a all ddarparu ar gyfer eich anghenion gofal iechyd o ddydd i ddydd. 
 
Mae'n bwysig eich bod yn cofrestru pob aelod o'ch teulu gyda'r feddygfa cyn gynted ag y gallwch.
   
Mae cymorthfeydd meddygon ar agor rhwng 8am a 6.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ond nid ar wyliau cyhoeddus nac ar benwythnosau).

Pan fyddwch wedi cofrestru bydd mod di chi gael cyngor meddygol gan:
  • Ddoctoriaid,
  • Nyrsys arbenigol,
  • Bydwragedd, ac 
  • Ymwelwyr iechyd.​


Cymorth Iechyd Meddwl

Mae Llinell Gymorth Iechyd Meddwl i Gymru (C.A.L.L) yn darparu cymorth a gwybodaeth i unrhyw un sydd â thrallod meddwl.

Os yw eich teimladau, meddyliau neu symptomau yn eich poeni, yn peri ofn neu bryder i chi – yna ffoniwch y llinell gymorth neu anfonwch neges destun (0800 132 737).

Mae C.A.L.L. yn defnyddio’r gwasanaeth dehongli Iaith Llinell i gefnogi galwyr na allant (neu y mae’n well ganddynt beidio i) siarad Cymraeg neu Saesneg.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro​.​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Cael meddyginiaeth


Os yw eich meddyg am i chi gymryd meddyginiaeth be​nodol, bydd yn rhoi presgripsiwn i chi y bydd angen i chi fynd ag ef i'ch fferyllfa neu fferyllydd lleol.

Mae fferyllfeydd yn aml wedi'u lleoli ger meddygfeydd ond gallwch hefyd ddefnyddio gwefan y GIG i ddod o hyd i'ch fferyllfa agosaf.​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Os ydych wedi cofrestru gyda meddyg yng Nghymru mae gennych hawl i gael presgripsiynau am ddim gan fferyllydd yng Nghymru.​

Mynediad at ddeintyddion   

Os oes gennych unrhyw broblem gyda'ch dannedd, dylech ofyn am help gan eich noddwr, neu Weithiwr Cymorth y Cyngor, i ddod o hyd i ddeintydd lleol.

Dylech ofyn am help gan eich noddwr neu weithiwr cymorth i ddod o hyd i Ddeintydd lleol sy'n darparu triniaeth gan y GIG. 

Gallwch chi, eich noddwr neu Weithiwr Cymorth e-bostio cav.gds@wales.nhs.uk​ a byddwch yn cael eich rhoi ar Restr Aros Ganolog.

Ar gyfer triniaeth ddeintyddol y GIG bydd eich noddwr neu weithiwr cymorth yn eich helpu i wneud cais am dystysgrif HC2.

Bydd angen i chi roi'r rhif dystysgrif HC2 hon i'r deintydd pan fyddwch yn trefnu ar gyfer eich apwyntiad GIG er mwyn osgoi gorfod talu ffioedd deintyddol y GIG. 

Bydd angen i chi ddod â'r dystysgrif HC2 hon gyda chi pan fyddwch yn mynychu apwyntiad deintyddol.

Ar gyfer gofal brys, cysylltwch â CAF 24/7 ar 0300 1020 247. Ni fydd angen i chi ddangos tystysgrif HC2 i gael mynediad at ofal deintyddol brys y GIG.

Mynediad at optometryddion



Os oes gennych broblem yn ymwneud â'ch llygaid, dylech ofyn am help gan eich noddwr, neu Weithiwr Cymorth y Cyngor, i ddod o hyd i optometrydd lleol (a elwir hefyd yn optegydd) sy'n darparu gwasanaethau'r GIG.

Ar gyfer profion golwg y GIG a sbectol GIG, gofynnwch i'ch noddwr neu weithiwr cymorth eich helpu i wneud cais am dystysgrif HC2. 

Bydd angen i chi roi'r rhif dystysgrif HC2 hon i'r optegydd pan fyddwch yn trefnu ar gyfer eich apwyntiad llygaid GIG er mwyn osgoi gorfod talu ffioedd llygaid a sbectol y GIG.

Bydd angen i chi ddod â'r dystysgrif HC2 hon gyda chi pan fyddwch yn mynychu apwyntiad llygaid. 

Ar gyfer unrhyw broblemau brys gyda'ch llygaid, darperir gwasanaeth gofal llygaid brys gan y rhan fwyaf o optometryddion 9am-5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae rhai optometryddion ar agor ar ddydd Sadwrn. Ni fydd angen i chi ddangos tystysgrif HC2 i gael mynediad at ofal llygaid brys y GIG. 

I gael cyngor brys y tu allan i oriau, gallwch ffonio GIG 111.



Gwasanaethau gofal iechyd y tu allan i oriau arferol 


Os oes gennych broblem iechyd nad yw'n argyfwng sy'n bygwth bywyd ond na all aros nes bydd y feddygfa ar agor nesaf, ffoniwch 111 a byddant yn eich cyfeirio at ble y gallwch gael gofal, a dim ond os bydd angen y byddant yn eich cynghori i ymweld ag ysbyty.

Os oes gennych argyfwng sy'n bygwth bywyd, ffoniwch 999.

 

Sgrinio Iechyd y Cyhoedd 


Bydd pob teulu ac unigolyn sy'n cyrraedd Caerdydd a'r Fro yn cael cynnig sgrinio iechyd y cyhoedd.

Mae hwn yn archwiliad iechyd ychwanegol ar gyfer unigolion sydd wedi dod o dramor ac a allai fod â rhai anghenion iechyd ychwanegol.

Cynhelir Sgrinio Iechyd y Cyhoedd gan wasanaeth penodol o'r enw Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a'r Fro (GCICF). 

Lleolir y gwasanaeth yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Wrth gofrestru gyda meddygfa, bydd GCICF yn anfon llythyr i'ch cyfeiriad yn eich gwahodd i fynychu apwyntiad i gwblhau'r sgrinio iechyd. 

Pan fyddwch yn mynychu GCICF, gofynnir i chi am wybodaeth i'ch galluogi i gofrestru:


  • ID Ffotograffig
  • Prawf o’r cyfeiriad lle'r ydych yn byw 
 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynychu’r apwyntiad hwn neu os nad yw’r dyddiad neu'r amser yn gyfleus i chi, ffoniwch yr adran i wneud apwyntiad gwahanol.  ​

​​


© 2022 Cyngor Caerdydd