Bobi yw ein ChatBot dwyieithog newydd sydd wedi'i ddyfeisio i ateb eich cwestiynau a'ch helpu i gael mynediad at wasanaethau. Mae Bobi ar gael unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos pan fydd yn gyfleus i chi.
Ein ChatBot yw'r ychwanegiad diweddaraf i ystod o sianeli cyswllt Cyngor Caerdydd, gan gynnig mwy o ddewis i chi a gwell profiad i’r cwsmer.
Gyda beth all Bobi eich helpu?
Ar y dechrau bydd Bobi yn arbenigo ar ateb eich ymholiadau ailgylchu a gwastraff, er enghraifft:
- Pryd mae fy miniau neu fy magiau yn cael eu casglu?
- Alla’ i ailgylchu ffoil?
- Alla’ i riportio tipio anghyfreithlon?
- Beth yw oriau agor y canolfannau ailgylchu?
Drwy ddefnyddio Bobi i ateb eich cwestiynau byddwch yn arbed amser i chi eich hun a gall ein staff canolfan gyswllt ganolbwyntio ar ymholiadau mwy cymhleth a materion sensitif.
O'r diwrnod cyntaf bydd ein ChatBot yn dysgu o'r cwestiynau a ofynnwch. Po fwyaf o gwestiynau yr ateba Bobi, y mwyaf y bydd Bobi yn ei ddysgu.
Gyda'ch help chi, bydd gwybodaeth Bobi yn datblygu dros y misoedd nesaf. Yna, gall Bobi ddechrau delio ag ystod ehangach o ymholiadau, a helpu mwy a mwy o gwsmeriaid.
Sut mae defnyddio Bobi?
Bydd Bobi yn ymddangos ar waelod ein tudalennau gwe ar ailgylchu a gwastraff. Cliciwch arno i ddarllen ein telerau ac amodau ac i ddechrau sgwrs.
Gallwch deipio eich cwestiynau neu glicio ar opsiynau y mae Bobi yn eu darparu yn ystod y sgwrs. Os hoffech ddechrau eto gallwch, teipiwch 'ailgychwyn' ar unrhyw adeg.
Cliciwch ar y symbol minws i wneud y ffenestr sgwrsio yn llai. Gallwch barhau â'r sgwrs drwy glicio ar Bobi ar unrhyw adeg.
Bydd hanes eich sgwrs yn aros yn y sgwrs nes i chi gau eich porwr.
Mae eich data’n ddiogel gyda ni