Yn gryno, bydd ein Strategaeth ar gyfer y deng mlynedd nesaf yn:
- sicrhau bod ysgolion yn y lleoedd priodol, o'r maint priodol, yn cael eu hariannu'n briodol ac yn adeiladau i'r 21ain Ganrif gyda chyflesterau TGCh ardderchog ac addas at y diben
- darparu gwasanaethau integredig effeithlon ac effeithiol, yn cyfuno ysgolion Babanod ac Iau a sefydlu ysgolion uwchradd sy'n cynnig cwricwlwm 14 - 19 oed cynhwysfawr
- canolbwyntio ar leihau'r cysylltiad rhwng anfantais a chyflawniad addysgol
- ateb y cynnydd yn y galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ledled Caerdydd ar gyfer ysgolion prif ffrwd ac Ysgolion Arbennig a mynd i'r afael â lleoedd gwag
- hyrwyddo cydweithio, rhwydweithio a datblygiad ‘Cymunedau Dysgu'
- gwneud ysgolion yn ganolbwynt eu cymunedau a rhannu'r cyfrifoldeb am holl blant a phobl ifanc yr ardal
- codi safonau addysg drwy ddefnyddio technoleg newydd a dulliau addysgu arloesol
Bydd argymhellion allweddol ein Rhaglen yn:
- lleihau nifer y lleoedd gwag a chreu arbedion a gaiff eu hail-fuddsoddi mewn addysg
- creu lleoedd cyfrwng Cymraeg ychwanegol
- creu lleoedd ychwanegol mewn nifer fach o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg mewn ymateb i'r cynnydd yn y boblogaeth
- lleihau costau gwaith cynnal a chadw sylweddol sydd wedi cronni
- creu darpariaeth gynradd 3-11 oed ym mhob ysgol yng Nghaerdydd
- uwchraddio ysgolion uwchradd a chynradd i gyrraedd safonau'r 21ain ganrif o ran addysgu a dysu
- darparu ysgolion cynaliadwy effeithlon yn unol â Strategaeth Carbon Ysgafn Caerdydd
- estyn y cyfleoedd i gyfuno ysgolion a lle y bo'n briodol gwasanaethau integredig i atgyfnerthu ffocws cymunedol ysgolion