Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynigion Ysgol Uwchradd Cathays

Ehangu ac ailddatblygu Ysgol Uwchradd Cathays





Ar 14 Hydref 2021 cytunodd Cabinet Cyngor Caerdydd ar gynigion i wneud y canlynol:
  • Cynyddu capasiti Ysgol Uwchradd Cathays o 1,072 o leoedd (5.5 Dosbarth Mynediad gyda 247 o leoedd chweched dosbarth) i 1,450 o leoedd (8 Dosbarth Mynediad gyda 250 o leoedd chweched dosbarth), o fis Medi 2023
  • Codi adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cathays ar safle Canolfan Maendy ger Ffordd y Goron a Heol y Gogledd 
  • Ehangu’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) bresennol i ddysgwyr sydd â Chyflyrau ar y Sbectrwm Awtistig o 16 o leoedd i 50 o leoedd mewn gofod pwrpasol yn adeiladau’r ysgol newydd

Mae'r gymeradwyaeth yn amodol ar gydsyniad y Comisiwn Elusennau mewn perthynas â safle Maendy yn cael ei gadw mewn ymddiriedolaeth elusennol.

​​​Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus bellach wedi cau. Gallwch weld yr hysbysiad statudol ar y dudalen hon. Mae gennych tan 26 Gorffennaf 2021 i wrthwynebu'r hysbysiad statudol.​


Fel rhan o Fand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Caerdydd, mae'r Cyngor yn ymgynghori ar gynigion i ateb y galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion uwchradd a lleoedd anghenion dysgu ychwanegol.

Mae’r Cyngor yn cynnig:

  • Ehangu Ysgol Uwchradd Cathays o 1,072 o leoedd (5.5 Dosbarth Mynediad gyda 247 lle yn y chweched dosbarth) i 1,450 o leoedd (8 Dosbarth Mynediad gyda 250 lle yn y chweched dosbarth); 
  • Codi adeiladau newydd i Ysgol Uwchradd Cathays yn lle’r hen rai ar safle Canolfan y Maendy ger Heol y Goron a Heol y Gogledd;
  • Ehangu’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) bresennol i ddysgwyr sydd â Chyflyrau ar y Sbectrwm Awtistig o 16 lle i 50 lle mewn adeilad pwrpasol yn yr adeiladau ysgol newydd;
  • Uwchraddio cyfleusterau cymunedol yn Cathays a Gabalfa drwy sicrhau bod cyfleusterau ysgol llawer gwell ar gael i'w defnyddio ar y cyd â'r gymuned leol ehangach; 
  • Darparu lle i'r gymuned leol barhau i gael mynediad i fannau agored oddi ar y ffordd at ddefnydd hamdden anffurfiol, gan gydnabod mai dyma'r defnydd presennol ar safle'r Maendy. 

Dweud eich dweud


Gallwch lawrlwytho copi o’r ddogfen ymgynghori yn nodi’r manylion arfaethedig.

Rydym hefyd wedi creu fersiwn hygyrch o'r ddogfen ymgynghori​ (1,74mb PDF)​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd



​Rydym hefyd wedi creu fersiwn hygyrch o'r ddogfen gryno​ (595kb PDF)​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd




​​​Ehangu ac ailddatblygu Ysgol Uwchradd Cathays 

Caiff adroddiad ar yr ymgynghoriad ei ystyried gan Gabinet y Cyngor yn ei gyfarfod ar 17 Mehefin 2021. 

Mae'r adroddiad yn hysbysu'r Cabinet o'r ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad, y materion a godwyd, ymateb y Cyngor i'r rhain ac argymhellion ar y ffordd ymlaen. Yn ogystal, mae'r adroddiad yn nodi pryderon a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad, yn enwedig ansicrwydd ynghylch lleoliad/cynllun yr ysgol newydd a'r effaith bosibl ar ofod mynediad agored, gan fynd i'r afael â’r rhain hefyd. 

Mae gwaith pellach wedi'i wneud i lunio map ffiniau llinell goch dangosol ar gyfer safle arfaethedig yr ysgol sy'n ystyried y safbwyntiau a fynegwyd. 

Mae'r map ac yn nodi'r gofod mynediad agored a fyddai ar gael, y ganolfan hamdden a’r traciau BMX y tu allan i ffin y datblygiad a fyddai’n cael eu cadw, y tir sydd ei angen ar gyfer yr ysgol a'r tir mynediad agored cymunedol sy'n weddill.  Mae'r map yn nodi ardal fawr o ofod cymunedol, y tu allan i ffin yr ysgol a'r ganolfan hamdden o tua 13,500m² a fyddai'n cael ei chadw.  Mae hyn yn gynnydd yn swm y gofod mynediad agored anghyfyngedig sydd ar gael i'w ddefnyddio gan y gymuned leol.


Byddai'r mannau mynediad agored yn ychwanegol at y cyfleusterau a fyddai'n cael eu cynnig o fewn ffin yr ysgol a fyddai ar gael i'r gymuned y tu allan i oriau ysgol. 

Byddai angen ystyried cynllun y safle ymhellach yn ystod y cam dylunio.

Yn yr adroddiad argymhellir bod y Cabinet yn awdurdodi swyddogion i gyhoeddi hysbysiad statudol i:

  • Ehangu Ysgol Uwchradd Cathays o 1,072 o leoedd (5.5 Dosbarth Mynediad gyda 247 o leoedd yn y chweched dosbarth) i 1,450 o leoedd (8 Dosbarth Mynediad gyda 250 o leoedd yn y chweched dosbarth), o fis Medi 2023 
  • Codi adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cathays ar safle Canolfan Maendy ger Heol y Goron a Heol y Gogledd
  • Ehangu’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) bresennol i ddysgwyr sydd â Chyflyrau ar y Sbectrwm Awtistig o 16 o leoedd i 50 o leoedd mewn llety pwrpasol yn adeiladau’r ysgol newydd
 
Rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnig yn dilyn cyfarfod y Cabinet 

Mae'r adroddiad ar gael i'w weld ar wefan y Cyngor yma:

​​

Cyhoeddi Hysbysiadau Statudol Cyfreithiol: Ehangu ac Ailddatblygu Ysgol Uwchradd Cathays​


Ystyriwyd adroddiad gan Gabinet y Cyngor ar 17 Mehefin 2021 a amlinellodd argymhellion yn sgil ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn ar gynigion i ehangu ac ailddatblygu Ysgol Uwchradd Cathays.  

Cytunodd y Cabinet i’r Cyngor fwrw ymlaen i’r cam nesaf a chyhoeddi Hysbysiad Statudol cyfreithiol er mwyn:

  • Cynyddu capasiti Ysgol Uwchradd Cathays o 1,072 o leoedd (5.5 Dosbarth Mynediad gyda 247 lle yn y chweched dosbarth) i 1,450 o leoedd (8 Dosbarth Mynediad gyda 250 lle yn y chweched dosbarth), o fis Medi 2023 
  • Codi adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cathays ar safle Canolfan Maendy ger Heol y Goron a Heol y Gogledd
  • Ehangu’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) bresennol i ddysgwyr sydd â Chyflyrau ar y Sbectrwm Awtistig o 16 o leoedd i 50 o leoedd mewn llety pwrpasol yn adeiladau’r ysgol newydd







Mae’r hysbysiad statudol yn fyw o 29 Mehefin 2021 ac yn caniatáu cyfnod o 28 diwrnod ar gyfer gwrthwynebiadau ffurfiol i'r cynigion hyd at 26 Gorffennaf 2021.
 .

Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW.

Gellir hefyd anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd i’r cyfeiriad e-bost canlynol: ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk​

Rhaid i unrhyw wrthwynebiadau o’r fath a anfonir drwy e-bost gynnwys enw llawn a chyfeiriad post yr un sy'n gwrthwynebu.




© 2022 Cyngor Caerdydd