Cyhoeddi Hysbysiad Statudol Cyfreithiol
Mae’r Cabinet wedi cytuno y caiff y Cyngor fwrw ymlaen â’r cam nesaf a chyhoeddi Hysbysiad Statudol Cyfreithiol i:
- sefydlu ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg newydd â 2 Ddosbarth Mynediad ar gyfer plant 3-11 oed ar ran o safle Canolfan Addysg Gymunedol Howardian, Hammond Way, Caerdydd CF23 9NB o fis Medi 2015.
Mae’r hysbysiad yn caniatáu cyfnod o 28 diwrnod o’r dyddiad cyhoeddi i gyflwyno gwrthwynebiadau ffurfiol i’r cynigion.
Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Prif Swyddog Addysg, Cyngor Sir Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW.
Gellir hefyd anfon gwrthwynebiadau at y Prif Swyddog Addysg, Cyngor Caerdydd, gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost canlynol:
Rhaid i unrhyw wrthwynebiad a anfonir drwy’r post neu dros e-bost gynnwys enw llawn a chyfeiriad y sawl sy’n gwrthwynebu.