Mae gan blant hawl i gael lle rhan-amser mewn meithrinfa o ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed.
Byddant yn aros yn yr ysgol feithrin tan y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 4 oed pan fyddant yn dechrau’r dosbarth derbyn yn yr ysgol.
Negeseuon e-bost a llythyrau yn cynnig lle mewn ysgol
Byddwch yn derbyn eich cynnig naill ai drwy e-bost neu lythyr o ddydd Llun 25 Ebrill 2022.
I gael rhagor o wybodaeth am dderbyniadau, darllenwch lyfryn derbyn i ysgolion:
Mae’r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi’u dylunio i’w hargraffu. Mae’n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
Y Broses ymgeisio
Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2018 a 31 Awst 2019
24 Ionawr 2022
| Y broses o wneud cais i ddechrau mewn Ysgol Feithrin ym mis Medi 2021 yn cychwyn. Bydd y gwasanaeth Ymgeisio Ar-lein yn agor.
|
21 Chwefror 2022
| Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr.
|
Chwefror i Ebrill 2022
| Caiff ffurflenni eu prosesu a’u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu’r cyfeiriad a’r wybodaeth ategol rydych wedi’u rhoi i ni. |
25 Ebrill 2022
| Diwrnod y Cynnig. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch ar ôl 10am. Os gwnaed cais amdano, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn y post ar ôl 10am. Nodwch mai dim ond ar ôl 12 canol dydd ar y diwrnod cynnig y gellir rhoi penderfyniadau dros y ffôn. |
Ebrill 2022
| Creu rhestrau aros.
|
9 Mai 2022
| Dyddiad olaf i chi wrthod lle a gynigiwyd i chi. Rydym yn cadw’r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd.
|
Mai 2022
| Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a’u hasesu.
|
Mehefin 2022
| Canlyniadau’r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu’n fisol o nawr ymlaen. |
Medi 2022
| Plant yn dechrau yn yr Ysgol Feithrin.
|
Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2019 a 31 Mawrth 2020
| Y broses o wneud cais i ddechrau mewn Ysgol Feithrin yng Ngwanwyn/Haf 2022 yn cychwyn. Bydd y gwasanaeth Ymgeisio Ar-lein yn agor. |
4 Gorffennaf 2022
| Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr. |
Gorffennaf i Medi 2022
| Caiff ffurflenni eu prosesu a’u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu’r cyfeiriad a’r wybodaeth ategol rydych wedi’u rhoi i ni.
|
3 Hydref 2022
| Diwrnod y Cynnig. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch ar ôl 10am. Os gwnaed cais amdano, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn y post ar ôl 10am. Nodwch mai dim ond ar ôl 12 canol dydd ar y diwrnod cynnig y gellir rhoi penderfyniadau dros y ffôn. |
Hydref 2022
| Creu rhestrau aros.
|
17 Hydref 2022
| Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd gennym. Rydym yn cadw’r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd. |
Hydref 2022 | Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a’u hasesu |
Tachwedd 2022 | Canlyniadau’r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu’n fisol o nawr ymlaen. |
Tymor y Gwanwyn / Tymor yr Haf 2023 | Plant yn dechrau yn yr Ysgol Feithrin.
|
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi gwestiwn neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar-lein:
Neu ffoniwch C2C ar 029 2087 2088.