Edrychwch ar ysgolion yn eich ardal. Ewch i'w gwefan, edrychwch ar eu prosbectws a darllenwch yr adroddiad Estyn.
Ceisiwch drefnu ymweliad
Nid yw’r ffaith eich bod wedi clywed am ysgol yn golygu eich bod yn ei hadnabod.
Edrychwch ar wefannau ysgolion, darllenwch adroddiadau a gofynnwch a allwch ymweld.
Ni allwn roi sicrwydd i chi o le yn eich ysgol agosaf, ond mae dysgu mwy amdani yn lle da i ddechrau. Mae rhai ysgolion yn boblogaidd iawn, felly rydym yn sicrhau bod pobl yn byw yn y cyfeiriad y maent yn ei roi i ni, hyd at y dyddiad derbyn.
Gobeithiwn y cewch le yn eich dewis cyntaf o ysgol ond yn aml nid yw hynny'n bosibl. Mae gan bob ysgol uchafswm y gallant ei dderbyn. Meddyliwch am bob dewis yn ofalus.
Nodyn: Mae lleoedd ysgol yn llenwi'n gyflym, felly nodwch eich holl ddewisiadau i wneud yn siŵr y gallwn roi eich dewis uchaf posibl i chi.
Mae rhestru eich holl ddewisiadau o'r dechrau yn bwysig iawn.
Rydym am i'ch plentyn gael y lle gorau posibl. Gallwch helpu drwy anfon unrhyw dystiolaeth pan fyddwch yn gwneud cais.
Dywedwch wrthym os oes gan eich plentyn:
-
unrhyw frodyr neu chwiorydd yn yr ysgol
-
unrhyw anghenion dysgu ychwanegol
- unrhyw anghenion meddygol neu gymdeithasol sy'n golygu bod angen iddo fynd i un ysgol ac nid un arall
Rhowch wybod i ni os bydd unrhyw beth yn newid.
Mae yna ddyddiad cau. Rydym yn gwirio ceisiadau sy'n dod i law ar amser yn gyntaf.
Os methwch chi’r dyddiad cau, byddwch chi’n colli'r rownd gyntaf. Yna mae'n rhaid i chi lawrlwytho ffurflen a'i hanfon i mewn. Mae hynny'n cymryd mwy o amser a gallech golli lle mewn ysgol a ddewisoch.
Peidiwch â bod yn hwyr
Mae 60% o ysgolion Caerdydd yn llenwi yn y rownd gyntaf.
Gallwch wneud cais am le ysgol ar-lein.
Rydym yn ymdrin â derbyniadau i ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd drwy ein system dderbyn ar-lein.
Ceisiwch ddefnyddio'r un cyfeiriad e-bost bob tro y byddwch yn cysylltu â ni.
Mae rhai ysgolion ffydd yn rheoli eu lleoedd ysgol eu hunain – felly edrychwch ar eu gwefan i weld a oes angen i chi wneud cais yn uniongyrchol iddyn nhw.
Gofynnwch am help
Pan gewch gynnig ar gyfer ysgol yng Nghaerdydd, mae angen i chi ddweud wrthym a ydych am dderbyn y lle cyn gynted â phosibl. Efallai na fyddwch yn cael eich dewis cyntaf, ond byddwch yn aros ar y rhestr aros honno.
Os gwelwch yn dda, dywedwch wrthym os nad ydych am dderbyn y lle fel y gallwn
ei roi i rywun arall.
Bydd grŵp (panel) o wirfoddolwyr annibynnol, di-dâl yn gwrando ar eich apêl. Y panel sydd biau’r gair olaf.