Mae plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 11. Bydd rhieni disgyblion ym mlwyddyn 6 yn Ysgolion Cynradd Caerdydd yn derbyn manylion am y broses ymgeisio.
Gallwch wneud cais am bob ysgol uwchradd gymunedol drwy ein system dderbyn ar-lein.
Rydym yn cynnal
derbyniadau cydgysylltiedig ar gyfer Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. I gael lle yn yr ysgolion hyn gallwch wneud cais drwy ein system dderbyn ar-lein.
Mewngofnodwch i’r system Derbyn i ysgolion
Am rhagor o wybodaeth am dderbyniadau, darllenwch y llyfryn derbyn i ysgolion:
Mae’r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi’u dylunio i’w hargraffu. Mae’n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
Y Broses ymgeisio
Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2011 a 31 Awst 2012
Dydd Llun 26 Medi 2022
| Y broses o wneud cais i ddechrau ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2023 yn cychwyn.
|
Dydd Llun 21 Tachwedd 2022
| Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried
yn gais hwyr.
|
Rhagfyr 2022 i Chwefror 2023
| Caiff ffurflenni eu prosesu a’u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu’r cyfeiriad a’r wybodaeth ategol rydych wedi’u rhoi i ni.
|
Dydd Mercher 1 Mawrth 2023
| Diwrnod y Cynnig. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch ar ôl 10am. Os gwnaed cais amdano, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn y post ar
ôl 10am. Nodwch mai dim ond ar ôl 12 canol dydd ar y diwrnod cynnig y gellir rhoi penderfyniadau dros y ffôn.
|
Dydd Mercher 15 Mawrth 2023
| Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd gennym. Rydym yn cadw’r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd.
|
Ebrill 2023
| Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a’u hasesu. |
Mai 2023
| Canlyniadau’r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu’n fisol o nawr ymlaen. Safleoedd Rhestr Aros ar gael.
|
Medi 2023
| Plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd.
|
Derbyniadau Cydlynol
Gallwch wneud cais ar gyfer yr ysgolion Ffydd a Sefydledig canlynol:
- Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd,
- Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, a
- Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi.
Bydd yn rhaid i chi gwblhau Ffurflen Ategol ar gyfer Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, y gallwch ei chael gan yr ysgol ei hun.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi gwestiwn neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar-lein:
Neu ffoniwch C2C ar 029 2087 2088.