Mae plant yn dechrau yn y Dosbarth Derbyn yn y mis Medi wedi eu pen-blwydd yn bedair oed. Bydd rhieni plant sydd mewn meithrinfa ysgol yng Nghaerdydd yn derbyn manylion y broses o wneud cais.
Gallwch wneud cais am le mewn dosbarth derbyn mewn unrhyw ysgol gynradd yng Nghaerdydd.
Gwasanaethir pob ardal o Gaerdydd gan ysgol gynradd gymunedol Gymraeg, ysgol gynradd gymunedol Saesneg, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru ac Ysgol Gynradd Gatholig.
Nid oes angen i chi siarad Cymraeg na Saesneg adre, neu ddilyn ffydd benodol i wneud cais am le mewn unrhyw un o'r ysgolion hyn.
Gallwch
gweld manylion eich ysgolion agosaf a dalgylchoedd gan ddefnyddio'r tab Ysgolion Agosaf (Y pellterau uniongyrchol ac nid y llwybrau cerdded diogel fydd y pellterau).
Mae'r Cyngor hefyd yn cynnal
derbyniadau cydlynol ar gyfer 20 o'r 23 o ysgolion ffydd cynradd yng Nghaerdydd.
I gael lle mewn ysgol sy'n rhan o'r cynllun derbyniadau cydlynol, rhaid i chi wneud cais trwy system derbyniadau ar-lein y Cyngor. Efallai y bydd angen i chi hefyd gyflwyno manylion pellach yn uniongyrchol i'ch ysgol (neu ysgolion) o ddewis.
Mewngofnodwch i’r system Derbyn i ysgolion
Am rhagor o wybodaeth am dderbyniadau, darllenwch y llyfryn derbyn i ysgolion:
Mae’r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi’u dylunio i’w hargraffu. Mae’n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
Addysg Gymraeg
Mae addysg Gymraeg ar gael i bawb, pa bynnag iaith rydych yn ei siarad gartref.
Mae teuluoedd o bob math yn elwa ar addysg Gymraeg: teuluoedd nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg a rhai sydd yn ei siarad hi, teuluoedd o bob math o gefndir ethnig a chrefyddol, teuluoedd o Gymru a’r rhai sydd wedi symud yma o rywle arall.
Mae addysg Gymraeg yn galluogi plant i ddod yn gwbl rugl yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gall roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i'ch plentyn.
Y Broses ymgeisio
Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2019 a 31 Awst 2020
Dydd Llun 13 Tachwedd 2023
| Y broses o wneud cais i ddechrau mewn Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2024 yn cychwyn. |
Dydd Llun 8 Ionawr 2024
| Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr.
|
Chwefror i Ebrill 2024
| Caiff ffurflenni eu prosesu a’u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu’r cyfeiriad a’r wybodaeth ategol rydych wedi’u rhoi i ni. |
Dydd Mawrth 16 Ebrill 2024
| Diwrnod y Cynnig. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch ar ôl 10am. Os gwnaed cais amdano, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn y post ar ôl 10am. Nodwch mai dim ond ar ôl 12 canol dydd ar y diwrnod cynnig y gellir rhoi penderfyniadau dros y ffôn. |
Dydd Mawrth 30 Ebrill 2024
| Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd gennym. Rydym yn cadw’r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd. |
Mehefin 2024
| Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a’u hasesu.
|
Gorffennaf 2024
| Canlyniadau’r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu’n fisol o nawr ymlaen. |
Medi 2024
| Plant yn dechrau yn yr ysgol yn llawn amser.
|
Derbyniadau Cydlynol
Yr ysgolion ffydd sy'n rhan o'r cynllun derbyniadau cydlynol yw:
- Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Yr Holl Seintiau,
- Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Esgob Childs,
- Ysgol Gynradd Gatholig Crist y Brenin,
- Ysgol Gynradd Gatholig y Teulu Sanctaidd,
- Ysgol Gynradd Gatholig Sant Alban,
- Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Bernadette,
- Ysgol Gynradd Gatholig Cadog Sant,
- Ysgol Gynradd Gatholig Sant Cuthbert,
- Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant,
- Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Sain Ffagan,
- Ysgol Gynradd Gatholig Sant Ffransis,
- Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff,
- Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru’r Forwyn Fair,
- Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair,
- Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica,
- Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru’r Sant Paul,
- Ysgol Gynradd Gatholig Sant Pedr,
- Ysgol Gynradd Gatholig Sant Philip Evans,
- Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Tredegarville.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi gwestiwn neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar-lein:
N
eu ffoniwch C2C ar 029 2087 2088.