Mae Panel Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar yn gyfarfod amlasiantaethol lle mae gweithwyr proffesiynol o feysydd iechyd, addysg a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd i fonitro ac adolygu plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anableddau.
Mae'r Panel yn cyfarfod yn wythnosol i drafod plant sy'n cael eu hatgyfeirio ac i gytuno ar y ffordd orau ymlaen.
Mae’n bosibl y caiff plentyn ei atgyfeirio at Banel Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar pan fo gweithiwr proffesiynol neu riant neu ofalwr yn pryderu y gall fod anghenion dysgu ychwanegol neu anabledd ar y plentyn sy'n ei rwystro rhag manteisio ar yr un cyfleoedd â phlant o’r un oedran.
Pwy all wneud atgyfeiriad?
Gall unrhyw weithiwr proffesiynol sy'n ymwneud â'r plentyn wneud Atgyfeiriad Blynyddoedd Cynnar. Bydd y panel ond yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer plant:
- 0 i 5 oed,
- sy’n byw yng Nghaerdydd, ac
- sydd ddim eto’n mynychu addysg brif ffrwd.
Dylid trafod yr atgyfeiriad gyda chi, a dylech gael y cyfle i fynegi eich barn.
Bydd Panel Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar yn cyfarfod i drafod yr atgyfeiriad ac unrhyw wybodaeth ategol arall. Bydd y panel yn ystyried anghenion eich plentyn ac yn cytuno ar y ffordd orau ymlaen. Gall hyn gynnwys atgyfeirio at wasanaethau neu weithwyr proffesiynol eraill i gael cymorth ac arweiniad pellach.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Rhaid i'r panel wneud penderfyniad o fewn 12 wythnos. Unwaith y bydd penderfyniad wedi'i wneud, anfonir llythyr atoch yn amlinellu unrhyw ganlyniadau neu weithredoedd gan Banel Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar. Ym mhob achos, bydd aelod o’r Tîm Cynhwysiant Blynyddoedd Cynnar yn cysylltu â chi i egluro'r canlyniadau ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Os oes gan eich plentyn ADY
Os penderfynir bod gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol (ADY), efallai y bydd angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) arno. Bydd y ddarpariaeth yn cael ei nodi mewn
Cynllun Datblygu Unigol (CDU).
Mewn rhai achosion, gall y Panel gytuno y bydd angen adnoddau ychwanegol ar y lleoliad y mae eich plentyn yn ei fynychu ar hyn o bryd, neu y bydd yn ei fynychu yn y dyfodol, i helpu'ch plentyn i gael mynediad i'w gyfleoedd chwarae a dysgu.
Dylech fod yn rhan lawn o’r gwaith o baratoi'r CDU. Mae'r gyfraith yn dweud bod gennych yr hawl i:
- rannu eich barn ar anghenion eich plentyn, a
- lle y bo'n bosibl, gael eich barn wedi’i hystyried
Ar ôl cwblhau'r CDU, dylech gael cyfle i wneud sylwadau ar ddrafft a mynegi unrhyw bryderon cyn gynted â phosibl. Dylai'r cyngor ystyried unrhyw bryderon a chymryd camau priodol.
Ar ôl ei baratoi, rhaid i'r cyngor roi copi o'r CDU i chi.
Os nad oes gan eich plentyn ADY
Os bydd Panel Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar yn penderfynu nad oes gan eich plentyn ADY, byddant yn ysgrifennu atoch ac yn esbonio'r rheswm dros eu penderfyniad.
Bydd y llythyr hysbysu yn cynnwys:
- manylion cyswllt y cyngor,
- manylion am sut i gael gafael ar wybodaeth a chyngor ar ADY a'r system ADY,
- manylion unrhyw gamau y bydd y cyngor yn eu cymryd i sicrhau bod anghenion y plentyn yn cael eu bodloni, hyd yn oed os nad oes ganddo ADY,
- cyngor ar osgoi a datrys anghytundebau, a
- gwybodaeth am eich hawl i apelio i'r Tribiwnlys.
Os ydych yn anghytuno â'r penderfyniad, dylech siarad â'r cyngor cyn gynted â phosibl i drafod y penderfyniad. Mae terfyn amser o 8 wythnos i wneud apêl, ond caiff hyn ei ymestyn 8 wythnos arall os defnyddiwch y llwybr datrys anghydfodau.
Gallwch gysylltu â SNAP Cymru ar 0808 801 0608 i gael cyngor a chymorth annibynnol ar ddatrys anghydfodau.