Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ailystyriaethau, datrys anghytundebau, eiriolaeth, ac apeliadau

​​Gall plentyn, rhiant, gofalwr neu berson ifanc ofyn i ni ailystyried penderfyniad a wnaed gan ysgol ynghylch anghenion dysgu ychwanegol (ADY). 

Yn y lle cyntaf, rhaid i chi siarad â Chydlynydd ADY yr ysgol neu athro dosbarth. 

Penderfyniad ADY 

Os na allwch ddatrys y mater gyda'r ysgol, gallwch ofyn i ni ailystyried y penderfyniad.  Byddwn yn gofyn i'r ysgol am sylwadau cyn i ni wneud penderfyniad. 

Ni fyddwn yn penderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY os:  

  • ydym wedi ailystyried y mater o'r blaen ac rydym yn fodlon nad yw anghenion y plentyn neu’r person ifanc wedi newid neu nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio ar y penderfyniad.
  • yw’r plentyn neu'r person ifanc bellach yn derbyn gofal gan gyngor. 
  • yw’r plentyn neu'r person ifanc yn destun gorchymyn cadw. 

Manylion y cynllun datblygu unigol 

Os na allwch ddatrys y mater gyda'r ysgol, gallwch ofyn i ni ailystyried y CDU a'i ddiwygio.  

Ni fyddwn yn ailystyried nac yn adolygu CDU os: 

  • ydym wedi ailystyried y CDU o'r blaen ac rydym yn fodlon nad yw anghenion y plentyn neu’r person ifanc wedi newid neu nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio ar y penderfyniad.  
  • yw’r plentyn neu'r person ifanc bellach yn derbyn gofal gan gyngor. 
  • yw’r plentyn neu'r person ifanc yn destun gorchymyn cadw. 

Beth sy'n digwydd os na fyddwn yn ailystyried neu'n adolygu'r CDU?

Byddwn yn cysylltu â'r plentyn neu'r person ifanc a'i riant neu ofalwr ac yn rhoi ein rhesymau dros beidio â'i ailystyried. Byddwn hefyd yn rhoi copi o'r hysbysiad i'r ysgol. 

Enwi darpariaeth

Yn y rhan fwyaf o achosion, gall plant a phobl ifanc ag ADY gael y cymorth sydd ei angen arnynt mewn ysgolion prif ffrwd, ac ni fydd angen i ni enwi darpariaeth amgen yn y CDU.   

Pan fyddwn yn penderfynu a ddylem enwi darpariaeth i sicrhau lle, mae'n rhaid i ni ystyried os:  

  • oes gan yr ysgol nodweddion penodol sy'n ei gwneud yn addas ar gyfer darpariaeth dysgu ychwanegol y plentyn. Er enghraifft, adeiladau a hygyrchedd yr ysgol. 
  • p'un a oes gan yr ysgol aelodau o staff sydd ag arbenigedd neu hyfforddiant arbenigol mewn angen achos isel. Er enghraifft, nam ar y clyw neu'r golwg.  
  • byddai'n afresymol i ysgol brif ffrwd roi’r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol.  


Byddem hefyd yn ystyried unrhyw ffactorau eraill a allai fod yn berthnasol i achos eich plentyn.   

Beth fydd yn digwydd nesaf 

Anfonwch eich cais atom yn ysgrifenedig yn LlinellGymorthADY@caerdydd.gov.uk.   

Mae gennym 7 wythnos i ystyried y cais a gwneud penderfyniad.  

Byddwn yn casglu eich barn chi a’ch plentyn (gan gynnwys unrhyw ddogfennaeth berthnasol). Efallai y byddwn hefyd yn cael rhagor o wybodaeth gan yr ysgol, gweithwyr iechyd proffesiynol a gwasanaethau plant. 

Byddwn yn cysylltu ac yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad a byddwn yn cadarnhau hyn yn ysgrifenedig ar ddiwedd y 7 wythnos.
  
Os ydych yn dal yn anhapus â’r canlyniad, gallwch apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru. Rhaid i chi apelio o fewn 8 wythnos. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses apelio yma. 

Mae SNAP Cymru yn rhoi cyngor annibynnol i deuluoedd â phlant sydd ag ADY. Gallant gynnig: 

  • gwybodaeth ddiduedd, 
  • cyngor a chymorth, 
  • cymorth datrys anghytundebau a chyfryngu, 
  • eiriolaeth, 
  • cyngor gwahaniaethu, a 
  • hyfforddiant i ofalwyr a gweithwyr proffesiynol. 




© 2022 Cyngor Caerdydd