Mae Tîm Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar yn cynnig gwasanaethau i blant ag anghenion ychwanegol sydd hyd at 5 oed. Mae'r tîm yn cynnig cymorth a chyngor i deuluoedd a darparwyr gofal plant i sicrhau eu bod yn symud i feithrinfa neu ddosbarth derbyn yn ddidrafferth.
Prif nodau'r tîm yw:
- rhoi arweiniad i nodi ac asesu plant ag Anghenion
Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gynnar.
- cynllunio symud plant ag AAA ac anghenion meddygol sylweddol i leoliad blynyddoedd cynnar, a'u helpu i wneud hynny. Gan drefnu hyfforddiant, meddygol, asesiadau risg neu gynlluniau gofal yn ôl yr angen.
- gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau iechyd, timau awdurdod lleol eraill a thimau darpariaeth arbenigol i ddechrau, datblygu a rheoli gwasanaethau cymorth a chyngor.
Ffoniwch ni ar 029 2067 1479 neu 029 2067 1466 i gael cyngor neu ragor o wybodaeth.