Os ydych yn y carchar, ar remánd neu yn cael eich cadw mewn math arall o ddalfa, gallech fod wedi'ch eithrio rhag talu’r Dreth Gyngor os ydych yn byw ar eich pen eich hun.
Os ydych yn byw gydag oedolyn arall gallech gael gostyngiad o 25%.
Os ydych chi'n sengl
Byddwch wedi’ch eithrio rhag talu’r dreth gyngor os ydych:
- yn y carchar neu ar remánd, a’r
- unig berson sy'n byw yn eich eiddo.
Os ydych chi mewn cwpl
Gallwch wneud cais am ostyngiad treth gyngor ar y cyd os yw'ch partner ar remánd neu yn y carchar.
Gwneud cais am ostyngiad neu eithriad
Os hoffech wneud cais am eithriad neu ostyngiad, gallwch e-bostio: trethgyngor@caerdydd.gov.uk
Bydd angen i chi roi’r canlynol i ni:
- eich enw,
- eich cyfeiriad
- eich rhif cyfrif Treth Gyngor,
- eich dyddiad geni
- y dyddiad y daeth eich eiddo yn wag (os ydych yn sengl),
- enw a chyfeiriad y carchar, a
- y dyddiad yr aethoch chi neu’ch partner i'r carchar
.