Dyma ein safle ar-lein ar gyfer tenantiaid tai ac ymgeiswyr tai, lle gallwch:
- Lenwi ffurflen cais am dai
- Diweddaru eich e-bost a'ch manylion cyswllt
Gall tenantiaid Cyngor Caerdydd hefyd:
- Wirio balansau eich cyfrifon, yn cynnwys cyfrifon rhent, cyn-denantiaeth a gwaith atgyweirio y gellir ailgodi tâl amdano
- Gwirio eich trafodion
- Gwirio eich cyfriflen
- Gweld eich rhestr daliadau
- Gwneud taliad trwy gerdyn debyd neu gredyd
Gallwch wneud hyn drwy fewngofnodi gan ddefnyddio'r botwm 'mewngofnodi i tai ar-lein'.
Sut i gofrestru
Mae cofrestru’n hawdd, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw clicio ar y botwm ‘Mewngofnodi i Tai Ar-lein’ a dilyn y cyfarwyddiadau syml.
Os ydych yn denant presennol i Gyngor Caerdydd, bod gennych hen gyfrif tenant Cyngor Caerdydd, cyfrif gwaith atgyweirio y gellir codi tâl amdano Cyngor Caerdydd neu os ydych wedi gwneud cais am Dai o'r blaen, cofrestrwch drwy ddewis y botwm 'Ymgeiswyr a thenantiaid presennol - Cofrestru'.
Bydd angen:
- Eich rhif cyfeirnod person: dylai’r rhif 6 digid hwn fod ar gael ar unrhyw ohebiaeth ddiweddar mewn perthynas â'r cyfrif
- Cyfeiriad e-bost gweithredol
Os nad ydych yn gwybod eich rhif cyfeirnod person
Ar gyfer tenantiaid Cadwyn, Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd, Hafod, Linc Cymru, Newydd, Wales and West, United Welsh a Chymdeithas Tai Taf, bydd angen i chi gysylltu â'ch Cymdeithas Dai yn uniongyrchol i ofyn iddynt am eich cyfeirnod person.
Ar gyfer tenantiaid Cyngor Caerdydd neu os ydych yn hysbys i'r Adran Dai, anfonwch e-bost CyfrifonRhentArlein@caerdydd.gov.uk neu CaisTaiArlein@caerdydd.gov.uk gan nodi eich enw a'ch cyfeiriad llawn a byddwn yn anfon eich cyfeirnod person atoch drwy'r post.