Mae Newid Go Iawn yn fenter a grëwyd gan dîm Digartrefedd Cyngor Caerdydd mewn ymateb i COVID-19 a'i nod yw nodi unigolion sy'n agored i niwed sy’n byw yn seiliedig ar y stryd. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch i ni i roi cymorth i'r unigolion a nodir.
Bydd ein tîm allgymorth yn gweithredu ar bob adroddiad ac yn rhoi cymorth arbenigol i bob unigolyn a’i gyfeirio at amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran helpu i annog ymbellhau cymdeithasol er budd iechyd y cyhoedd. At ddibenion casglu gwybodaeth, Cyngor Caerdydd yw’r Rheolwr Data.
Diolch am gymryd rhan yn ymgyrch Newid Go Iawn, mae eich adroddiad yn werthfawr i ni a gallai wneud gwahaniaeth go iawn ym mywyd rhywun.
Pa ddata rydym yn ei gasglu?
Er mwyn hwyluso'r fenter hon, mae Cyngor Caerdydd yn defnyddio llwyfan negeseuon testun i dderbyn a phrosesu eich adroddiad. Mae rhan o'r broses hon yn golygu y byddwn yn cael eich rhif ffôn symudol yn awtomatig ynghyd â stamp dyddiad a chorff y neges destun. Ni fyddwn yn casglu gwybodaeth adnabod fel enw neu gyfeiriad, oni bai eich bod yn dewis cynnwys hyn yn eich neges destun.
Prosesir yr holl ddata a gawn yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.
Sut rydym yn casglu eich data?
Sut byddwn yn defnyddio eich data?
Caiff eich data ei ddefnyddio at y dibenion canlynol:
- I gysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth arnom ynglŷn â'ch adroddiad
- I gynhyrchu adroddiad a gaiff ei drosglwyddo i'n tîm allgymorth
Am faint y byddwn yn storio eich data?
Bydd eich data'n cael ei gadw am gyfnod o 96 awr gan Gyngor Caerdydd i roi amser ar gyfer prosesu'r adroddiadau a ddaw i law. Pan ddaw’r cyfnod 96 awr i ben, caiff y data ei ddileu'n ddiogel. Sylwch na fydd eich data'n cael ei storio gan Esendex a chaiff pob neges destun ei dileu ar unwaith o'u gweinydd.
Ein sail gyfreithlon
Ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data personol yn gyffredinol fydd un neu fwy o'r canlynol:
- rydym yn prosesu eich data personol i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol fel Awdurdod Lleol;
- rydym yn prosesu eich data personol i gwblhau tasg er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol sydd gennym fel corff cyhoeddus;
- rydym yn prosesu eich data lle bo angen i ddiogelu ein buddiannau cyfreithlon fel Awdurdod Lleol;
- rydym yn prosesu eich data lle bo angen i gyflawni contract.
Beth yw eich hawliau diogelu data?
Hoffai Cyngor Caerdydd wneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol:
- Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn am gopïau o unrhyw ran o’ch data personol.
- Yr hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn am gael cywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir.
- Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i’n Cwmni ddileu eich data personol.
- Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych hawl i ofyn i ni roi cyfyngiadau ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.
- Yr hawl i wrthod prosesu – Mae gennych hawl i wrthod prosesu eich data personol, o dan rai amodau.
- Yr hawl i gludo data – Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r data yr ydym wedi'i gasglu i sefydliad arall, neu'n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.
Sut mae cysylltu â ni?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod hyn ymhellach gyda'n tîm Digartrefedd, anfonwch e-bost atom yn
cysguarystryd@caerdydd.gov.uk.
Cofiwch fod gennych hawl i gysylltu â ni a gofyn am i'ch data gael ei ddileu ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod 96 awr.
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW