Mae twyll tenantiaeth yn costio cannoedd o filoedd o bunnoedd y flwyddyn, ac mae’n cadw pobl ar y rhestr aros am gyfnod hwy gan eu rhwystro rhag cael y tai sydd eu hangen arnynt.
Mae twyllwyr tenantiaeth yn wynebu risg o golli eu cartrefi, cael eu cymryd i’r llys sirol, a hyd yn oed colli’r hawl i gael tai cymdeithasol yn y dyfodol.
Ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gwneud un o’r canlynol?
- Is-osod yr eiddo cyfan
- Gwerthu'r allweddi i rywun arall
- Gadael yr eiddo
- Rhoi gwybodaeth anwir i gael tŷ cyngor.
Rhoi gwybod am dwyllwr tenantiaeth
Nid oes angen i chi roi eich enw. Rhowch wybod i ni beth rydych yn ei wybod a byddwn ni'n ymchwilio i'r mater.
Rhoi gwybod am dwyllwr tenantiaeth
Neu ffoniwch 029 2087 4500 (24 awr y dydd)
Byddwn ni’n cynnal archwiliadau ar hap yn ein heiddo hefyd, felly os gofynnir i chi brofi pwy ydych chi byddwch chi’n ein helpu i fynd i’r afael â thwyllwyr tenantiaeth.
Rhoi gwybod am rywbeth