Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Dirywion gorfodi gwastraff

Os ydych wedi cyflawni trosedd sy’n gysylltiedig â gwastraff mae’n bosibl eich bod wedi cael Hysbysiad Cosb Benodedig gorfodi wastraff.
 

Dylid ei thalu ymhen 14 di​wrnod o’r dyddiad ar y llythyr cosb. 

Os byddwch yn talu'r ddirwy o fewn yr amser a nodir ni fyddwch yn cael eich erlyn am y drosedd.
Os na thalwch y ddirwy, gallem gymryd camau cyfreithiol pellach drwy Lysoedd yr Ynadon. 

 

Gallech gael eich dirwyo am y troseddau canlynol: 


Categorïau tramgwydd:


  • ​Methu â chydymffurfio â gofynion Hysbysiad. 
  • Swyddog awdurdodedig a welodd y tramgwydd ac mae ganddo sail resymol i gredu mai chi a gyflawnodd y tramgwydd.  
  • Mae’r dystiolaeth a gasglwyd gan swyddog awdurdodedig yn profi y tu hwnt i amheuaeth resymol bod tramgwydd wedi’i gyflawni. 

Apeliadau, cwynion ac anghydfodau


Nid oes proses apelio ar gyfer Hysbysiadau Cosb Benodedig Gorfodi Gwastraff. 
Os ydych yn teimlo na ddylech fod wedi derbyn yr hysbysiad, byddai'r cyfle i anghytuno yn cael ei wneud drwy'r Llys Ynadon. 

Ni chaiff unrhyw ymholiadau neu anghydfodau ynglŷn â chosbau penodedig eu trin yn rhan o’n Gweithdrefn Gwyno Gorfforaethol ni nac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac ni chewch chi ymateb ffurfiol ychwaith. 

Caiff y mater ei gyfeirio at Lys yr Ynadon, os na thelir y gosb benodedig, neu os rhowch gyfarwyddyd i Gyngor Caerdydd wneud hyn. 


​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd