Mae Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am drwyddedu cerbydau Hacni (tacsis), cerbydau llogi preifat, a’u gyrwyr.
Mae pob un o’n gyrwyr yn gorfod cyflawni gwiriadau troseddol a meddygol i sicrhau eu bod yn gymwys i fod yn yrwyr trwyddedig.
Mae’r holl gerbydau trwyddedig yn cael eu profi’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn ddiogel.
I sicrhau eich bod yn cyrraedd adref yn ddiogel dylech bob amser ofalu eich bod yn defnyddio cerbyd trwyddedig gyda gyrrwr trwyddedig.
Mae gyrwyr trwyddedig yn gwisgo bathodyn adnabod gyda’u llun a manylion y drwydded arno. Caiff un bathodyn ei wisgo gan y gyrrwr ac mae un arall yn cael ei arddangos ar ffenestr flaen y cerbyd ar ochr y teithiwr.
I gyrraedd pen eich taith yn ddiogel dylech:
- Sicrhau eich bod yn talu’r ffi briodol os ydych mewn tacsi
- Archebu cerbyd llogi preifat ymlaen llaw drwy gwmni llogi preifat
- Gofyn os gall y lleoliad drefnu tacsi/cerbyd llogi preifat ar eich rhan a gadael i chi aros y tu mewn tan iddo gyrraedd
Math o gar | Du a gwyn neu math Tacsi Llundain | Amryw fathau o modelau |
Arwydd to | Arddangos arwydd to Tacsi | Ddim yn arddangos arwydd to |
Plât Trwydded | Plât gwyn ar gefn y cerbyd | Plât melyn ar gefn y cerbyd |
Sut i achebu | Modd ei alw o fin y ffordd | Angen ei archebu rhag blaen |
Safleoedd Tacsi
Defnyddiwch y safleoedd tacsis ar:
- Lôn y Felin
- Heol Eglwys Fair (A reolir ar nosweithiau Gwen a Sad)
- Heol y Brodyr Llwydion (A reolir ar nosweithiau Gwen a Sad)
- Plas-y-Parc
- Ffordd Churchill
- Tredegar Street
- Cei'r Fôr-Forwyn
- Stryd Albert
- Gorsaf Caerdydd Canolog
Gwneud cwyn