Gwyddom fod rhai trigolion yn poeni am y newidiadau i symudiadau traffig ar y gyffordd hon.
Rydym yn gwneud y newidiadau i wella diogelwch i gerddwyr a beicwyr. Mae hyn yn cynnwys ychwanegu cam golau traffig newydd ar gyfer beicwyr.
Er mwyn lleihau effaith y cam ychwanegol ar y goleuadau traffig, rydym wedi edrych ar wahanol opsiynau ac wedi penderfynu gwahardd troi i’r dde:
- o Heol Wellfield ar i Heol Marlborough, ac
- o Heol Marlborough i Heol Pen-y-lan.
Mae hyn yn golygu y gallwn gynnal 4 cam golau traffig ac osgoi ciwiau hirach ac oedi wrth y gyffordd.
Pe bai'r symudiadau presennol yn cael eu cadw ynghyd ag ychwanegu’r camau goleuadau a gwelliannau ar y droedffordd i gerddwyr, byddai'n cael effaith negyddol ar draffig ac ar gerddwyr wrth y gyffordd ac o amgylch yr ardal.
Cynhaliwyd arolygon traffig gennym ym mis Chwefror 2024 ac maent yn debyg i arolygon blaenorol a gynhaliwyd. Rydym yn credu y bydd yr effaith yn fach iawn. Fodd bynnag, byddwn yn monitro’r sefyllfa.
Rydym hefyd yn edrych ar ffyrdd o wella teithio llesol o amgylch Ysgol Gynradd Marlborough.
Bydd giât y fynedfa bresennol yn cael ei lledu i wella mynediad ar gyfer ein cerbydau cynnal a chadw parciau.
Er nad yw'r gatiau a'r rheiliau yn strwythurau rhestredig, mae iddynt werth o ran treftadaeth. Byddwn yn sicrhau:
- y gwneir y newidiadau mor ofalus a chydymdeimladol â phosibl, ac
- y defnyddir cymaint o'r defnyddiau gwreiddiol ag y bo modd.
Bydd y gwaith yn cryfhau'r rheiliau yn y lleoliad hwn a bydd y plât enw hanesyddol yn cael ei symud ychydig.
Yn ystod y cyfnod adeiladu, bydd nifer y caeau chwaraeon yn lleihau o 4 i 3. Unwaith y bydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau, byddant yn mynd yn ôl i 4 cae. Fodd bynnag, byddant mewn trefniant gwahanol i'r cynllun presennol a’r un dros dro.
Mae'n rhaid i ni leihau nifer y caeau er mwyn sicrhau:
- bod digon o le ar gyfer adeiladu a defnydd y cyhoedd, ac
- y gellir cwblhau'r gwaith adeiladu yn ddiogel.
Byddwn yn troi'r caeau, fel yr ochrau yn eich hwynebu. Dim ond digon o le i 3 chae sydd yn y cynllun hwn yn ystod y gwaith adeiladu.
Rydym wedi ymgynghori â'r Adran Parciau, ac rydym yn hyderus y bydd digon o le i ateb y galw.
Byddwn yn dod â'r pedwerydd cae yn ei ôl cyn gynted â phosibl.