Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Parcio i Ymwelwyr

​​​​​​​​​Os ydych yn byw mewn ardal parcio i breswylwyr, gallwch brynu oriau parcio i ymwelwyr trwy MiPermit. 

Wedi i chi brynu oriau, bydd angen i chi gofrestru cerbyd eich ymwelydd pan fydd yn parcio.


Gallwch brynu hyd at 6 swp o 850 awr. Bydd un swp o 850 awr yn costio £30. 

​Byddwch yn gallu prynu uchafswm o 5,100 awr y flwyddyn.

Os ydych wedi defnyddio'r nifer uchaf o oriau, ni fyddwch yn gallu prynu mwy nes bod blwyddyn wedi mynd heibio ers eich pryniant cyntaf.

Ni fydd angen i’ch ymwelydd arddangos unrhyw beth yn ei gerbyd.  

Mewngofnodi i MiPermit



I wneud cais am drwydded parcio, bydd angen i chi greu cyfrif ar system MiPermit.

I greu cyfrif, bydd angen i chi roi’r canlynol:   

  • eich enw llawn, 
  • rhif eich tŷ a’ch cod post, 
  • eich rhif treth gyngor (mae angen hyn arnom fel prawf eich bod yn byw yn yr eiddo). 






Os na allwch sefydlu cyfrif ar-lein, gallwch ffonio MiPermit ar 0333 123 6006 i gael help.  


Pan fydd gennych gyfrif gyda MiPermit, gallwch brynu a rheoli eich trwyddedau ar y wefan neu drwy App MiPermit.

Os nad ydych yn gwybod rhif eich cyfrif treth gyngor


Os nad ydych yn gwybod rhif eich cyfrif treth gyngor neu os nad oes gennych fynediad i rif o’r fath, cwblhewch ffurflen gais sefydlu cyfrif MiPermit (116kb DOC)​.​

Gallwch e-bostio neu bostio'r ffurflen gais wedi'i chwblhau i Trwyddedau@caerdydd.gov.uk.​

Gwasanaethau Parcio 
Blwch Post 47
Caerdydd
CF11 1QB
 
Byddwch yn derbyn e-bost neu neges SMS gyda rhif PIN a fydd yn eich galluogi i wneud cais am eich trwyddedau ar-lein.
​Gallwch ddyrannu oriau hyd at 2 wythnos ymlaen llaw a gallwch ddefnyddio hyd at 100 awr ar y tro. 

I ddefnyddio eich oriau parcio i ymwelwyr, mewngofnodwch i MiPermit neu defnyddiwch app MiPermit a chliciwch ar 'Rheoli Trwyddedau Digidol'. 

Rhowch rif cofrestru cerbyd eich ymwelydd, dyddiad ac amser dechrau ar gyfer y drwydded a hyd yr ymweliad.

Dros y ffôn neu neges destun


Gallwch ddefnyddio eich oriau i ymwelwyr drwy ffonio MiPermit ar 0333 123 6006​.

Os oes gan eich cyfrif MiPermit rif ffôn symudol ynghlwm wrtho, gallwch anfon neges destun i 61600 i ddefnyddio neu ymestyn oriau parcio i ymwelwyr.

Anfonwch neges destun gyda’r gair 'YMWELYDD' ynghyd â rhif cofrestru cerbyd eich ymwelydd a hyd yr arhosiad.

Er enghraifft:

YMWELYDD A123BCD 2 awr

I ymestyn trwydded ymwelwyr, anfonwch neges destun gyda’r gair 'YMESTYN' ynghyd â faint mewn oriau yr hoffech ymestyn y drwydded.

Er enghraifft:

YMESTYN 2 awr

Codir tâl am negeseuon testun i 61600 ar gyfradd safonol eich darparwr rhwydwaith.

© 2022 Cyngor Caerdydd