Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Mathau o fannau trwyddedau parcio

​Mae parcio i breswylwyr Caerdydd wedi'i rannu’n 4 ardal drwydded. 

Coch

Mae byw ar stryd goch yn golygu y gallwch barcio mewn unrhyw fan parcio i breswylwyr yn unig sydd wedi’i farcio neu fan parcio defnydd a rennir ar y stryd sydd wedi’i nodi ar y drwydded yn unig.

Ni allwch barcio ar unrhyw gyfyngiadau parcio eraill o fewn yr ardal parcio â thrwydded, megis ar linellau melyn dwbl.​

Glas

Os ydych yn byw mewn ardal parcio â thrwydded las, gallwch barcio ar unrhyw stryd yn ardal eich trwydded. Bydd hyn yn cael ei nodi ar y drwydded.

Darllenwch yr arwyddion wrth fynd i mewn i’r ardal barcio i wybod pa drwydded sydd ei hangen arnoch i barcio yno.

Ni allwch barcio ar unrhyw gyfyngiadau parcio eraill o fewn yr ardal parcio â thrwydded, megis ar linellau melyn dwbl.

Parthau parcio

Os ydych yn byw mewn ardal parthau parcio, gallwch barcio mewn unrhyw fan parcio â thrwydded i breswylwyr neu fan aros cyfyngedig sydd wedi’i nodi ar eich trwydded.

Darllenwch yr arwyddion stryd i wybod pa drwydded sy'n gymwys a'r cyfyngiadau amser sydd ar waith.

Ni allwch barcio ar unrhyw gyfyngiadau parcio eraill o fewn yr ardal parcio â thrwydded, megis ar linellau melyn dwbl.


Canol

Os ydych yn byw mewn ardal parcio â thrwydded ganolog, gallwch barcio yn y mannau parcio â thrwydded i breswylwyr ar y stryd sydd wedi’i nodi ar eich trwydded yn unig. 

Gallwch hefyd barcio yn y mannau â thrwydded yn y stryd gyfagos agosaf yn unig.​​
© 2022 Cyngor Caerdydd