Ardal lle mae'r holl barcio ar y stryd yn cael ei reoli yn ystod amseroedd penodol yw Parth Rheoli Parcio (PRhP).
Pan fyddwch mewn parth, rhaid i chi barcio mewn mannau dynodedig.
Dysgu
lle mae'r parthau rheoli parcio.
Rydym yn cyflwyno PRhP i ddelio â phroblemau parcio a gwneud ein hamgylchedd yn fwy diogel trwy:
- wneud cyfyngiadau'n syml,
- cadw lle parcio i breswylwyr ac ymwelwyr,
- stopio cymudwyr rhag parcio,
- annog cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus,
- gwella diogelwch y priffyrdd, a
- gwella amodau parcio i'r gymuned.
Byddwch yn gwybod eich bod yn mynd i mewn i PRhP yn ôl yr arwyddion mawr ar y stryd. Bydd yr arwyddion yn dangos yr amseroedd pan fydd cyfyngiadau llinell felen sengl a chyfyngiadau eraill yn weithredol.
Mae'r rhan fwyaf o'n PRhP yn gweithredu 7 diwrnod yr wythnos ond gall cyfyngiadau newid yn dibynnu ar yr ardal.
Rhaid i chi wirio'r arwyddion.
Mae cyfyngiadau llinellau melyn dwbl, troedffyrdd isel a chyrbau isel yn berthnasol 24 awr y dydd.
Rydym yn rhoi trwyddedau ar gyfer:
- preswylwyr a'u hymwelwyr,
- busnesau,
- staff ysgol hanfodol,
- contractwyr,
- gofalwyr, ac
- adeiladau crefyddol a chymunedol.
Mae'r mathau o drwyddedau rydym yn eu rhoi yn dibynnu ar y parth rydych ynddo. Dysgu mwy am PRhP yng Nghaerdydd.
Eiddo nad ydynt yn gymwys i gael trwydded
Ni all pob eiddo wneud cais am drwyddedau. Mae hyn yn ein helpu i reoli parcio ar y stryd, lliniaru’r newid yn yr hinsawdd, a lleihau effaith cartrefi a datblygiadau newydd.
Mae'r eiddo nad ydynt yn gymwys yn cynnwys:
- eiddo a ddatblygwyd ar ôl 1 Medi 2011
- eiddo gyda meysydd parcio oddi ar y stryd
- eiddo ar ffordd breifat
- eiddo sydd wedi'u hadeiladu neu eu haddasu heb ganiatâd cynllunio
- llety myfyrwyr
- datblygiadau dim ceir
Cyn llofnodi cytundeb tenantiaeth, prynu eiddo, neu sefydlu busnes, rhaid i chi wirio a yw'r eiddo'n gymwys i gael trwyddedau.
Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth anghywir a roddwyd i chi gan landlord, asiant gosod eiddo neu asiant eiddo.
Dysgwch sut i barcio'n gywir mewn PRhP.
Parcio gyda thrwydded
Gallwch ddefnyddio trwydded ddilys i barcio mewn mannau ac ardaloedd i ddeiliaid trwydded yn unig.
Mae angen trwydded arnoch i barcio mewn ardal parcio â thrwydded, er nad oes mannau parcio wedi eu paentio ar y ffordd.
Mewn rhai PRhP efallai y gallwch barcio gyda'ch trwydded mewn mannau aros cyfyngedig neu fannau talu ac aros. Mannau defnydd a rennir yw’r rhain.
Efallai y bydd rhai mannau trwydded o hyd lle mai dim ond defnyddwyr penodol a gaiff barcio ynddynt, fel meddygon. Os oes gennych fath gwahanol o drwydded, ni allwch barcio yn y mannau hyn.
Rhaid i chi wirio'r arwyddion pryd bynnag y byddwch yn parcio.
Parcio heb drwydded
Os nad oes trwydded gennych, gallwch barcio yn y mannau canlynol:
- mannau talu ac aros, a
- mannau aros cyfyngedig.
Os ydych am barcio mewn man talu ac aros, rhaid i chi brynu tocyn.
Gallwch barcio mewn man aros cyfyngedig heb drwydded a heb dalu, ond ni ddylech aros yn hirach na'r hyn a ganiateir. Rhaid i chi wirio'r arwyddion i weld am ba hyd y gallwch barcio.
Parcio gyda bathodyn glas
Os oes bathodyn glas gennych, gallwch barcio mewn man neu ardal i ddeiliaid trwydded preswylwyr am hyd at 3 awr. Rhaid i chi arddangos eich bathodyn a'ch cloc parcio yn glir.
Gallwch barcio mewn mannau talu ac aros ac aros cyfyngedig am ddim a heb derfynau amser. Rhaid i chi arddangos eich bathodyn yn glir.