Mae mannau gollwng a chasglu i fysus wrth ymyl y mwyafrif o'r prif atyniadau, gyda mannau parcio arhosiad hirach ar gael yn nes at ganol y ddinas.
Mae maes parcio oddi ar y stryd i fysus gyda system teledu cylch cyfyng 24 awr ar gael yn agos at ganol y ddinas yng Ngerddi Sophia. Mae gan y maes parcio i fysus a reolir gan y Cyngor hefyd gyfleusterau tai bach ac mae'n faes parcio arhosiad hir 7 diwrnod yr wythnos. O 1 Awst 2015 dim ond 4 man parcio i fysus sydd ar gael.
Costau
£4.20 yr awr
£15.50 y diwrnod
Sut i ddod o hyd i ni
Gerddi Sophia (oddi ar Heol y Gadeirlan)
CF11 9HW
Mae ystafell orffwys y gyrrwr a'r tai bach cyhoeddus ar agor o 8am tan 4pm, 7 diwrnod yr wythnos.
I gael mwy o wybodaeth ac i archebu (sydd ar gael ar gyfer diwrnodau digwyddiadau yn unig) cysylltu â ni.
Mae mannau parcio tymor byr ar y stryd i fysus hefyd ar gael mewn mannau sy'n ddelfrydol o ran mynd i ganol y ddinas a Bae Caerdydd.
Cysylltu â ni