Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Telerau ac amodau parcio i breswylwyr

​​​​​​Rhaid i berchennog neu deiliad y Drwydded ddarllen y telerau a’r amodau hyn a chytuno arnynt. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i addasu’r telerau a’r amodau hyn ar unrhyw adeg.​

1. Ni chaiff trwyddedau parcio ond eu cyflwyno i breswylwyr eiddo sy’n rhan o gynllun trwyddedau parcio. Ni fydd gan breswylwyr datblygiadau newydd, eiddo wedi’i addasu na neuaddau preswyl sydd eisoes yn bodoli hawl i drwyddedau parcio ar y stryd i breswylwyr. 

2. Cofiwch nad yw prynu trwydded parcio yn sicrhau lle mewn ardal parcio i breswylwyr.  Os yw ardaloedd parcio i breswylwyr yn llawn, efallai bydd angen ceisio ardaloedd parcio amgen a rhaid cydymffurfio â’r cyfyngiadau yn yr ardal honno.

3. Mae Trwyddedau Parcio ar gael yn Gymraeg neu Saesneg. Byddwn yn sicrhau bod trwyddedau’n cael eu hanfon yn unol â’ch iaith ddewis, ac anfonir adnewyddiadau bob blwyddyn yn awtomatig yn yr iaith a ddewisoch yn wreiddiol. I dderbyn trwydded parcio yn Gymraeg, dewiswch ‘Cymraeg’ a chwblhewch y ffurflen yn Gymraeg. Os dymunwch newid eich dewis iaith unrhyw bryd, gwnewch gais am drwydded newydd a chwblhewch y cais un ai yn Gymraeg neu’n Saesneg​.​

4. Ni chaniateir parcio cerbyd mewn man parcio i breswylwyr nes byddwch wedi cael y drwydded a’i harddangos yn y cerbyd.​

Ceisiadau

​5. Rhaid cyflwyno cais drwy ddilyn y dull a bennir gan y Cyngor. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i newid y broses ymgeisio unrhyw bryd pe byddai’r angen yn codi.​

6. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw gais pan ystyrir nad yw cais wedi bodloni’r amodau sy’n orfodol.​

7. Efallai y gofynnir i chi ar unrhyw bryd i gyflwyno dogfennau neu dystiolaeth ychwanegol i ategu’ch cais.

Ildio, dileu a dilysrwydd trwyddedau

8. Ni chodir tâl am newid y cerbyd sydd wedi’i gofrestru ar eich trwydded tra’ch bod chi’n byw yn yr un eiddo o fewn y cyfnod yr ydych chi eisoes wedi talu amdano. Dylech chi ddychwelyd eich trwydded at y Cyngor iddynt ei newid. Fodd bynnag, os na ellir dychwelyd y drwydded i’w chyfnewid, yna caiff ei hystyried yn drwydded a gollwyd (gweler pwyntiau 7 ac 8).

9. Os collir neu dinistrir trwydded ar gyfer cerbyd penodol, yna dylai deiliad y drwydded ofyn i’r Cyngor adnewyddu’r drwydded ar ôl iddo brofi i’r cyngor bod yr honiad yn un dilys.

10. Ni rhoddir Trwyddedau Ymwelwyr, Trwyddedau Ymwelwyr yn Unig na Thrwyddedau Masnachwr Moduron newydd os cânt eu colli neu eu dinistrio gan nad ydynt ar gyfer cerbyd penodol.

11. Ni ellir ad-dalu costau unrhyw drwydded.

12. Os caiff trwydded ei hanffurfio neu ei difwyno, neu os nad oes modd gweld y ffigurau na’r manylion ar y drwydded a olygir nad yw’n gymwys mwyach, neu os caiff y drwydded ei difrodi mewn unrhyw ffordd sy’n golygu nad oes modd ei defnyddio, yna dylai deiliad y drwydded ei dychwelyd i’r Cyngor er mwyn ei hadnewyddu.

13. Os nad oes angen eich trwydded arnoch mwyach, yna mae’n rhaid i chi ddychwelyd y drwydded i’r Cyngor.

14. Nid oes modd trosglwyddo unrhyw drwydded (er enghraifft os ydych yn symud cyfeiriad).

15. Ni chaniateir i landlordiaid na pherchenogion wneud cais am drwydded oni bai eu bod yn byw yn yr eiddo y mae'r cais wedi’i wneud ar ei gyfer.

16. Y Cyngor sydd berchen ar y trwyddedau parcio preswyl o hyd, a gellir eu canslo neu eu tynnu’n ôl ar unrhyw adeg. Os oes Swyddog Gorfodi Sifil yn gofyn i gael gweld eich trwydded parcio, mae’n rhaid i chi ei dangos iddo. Os yw’n amau y caiff ei defnyddio’n dwyllodrus, mae ganddo’r pŵer i atafaelu eich trwydded ac ni ddylech ei rwystro rhag cyflawni’r weithred hon.

17. Ni roddir trwyddedau i gerbydau teithwyr â threlar neu sy’n cludo mwy na 12 teithiwr.

18. Ni roddir trwyddedau i gerbydau nwyddau sydd wedi’u hadeiladu neu eu haddasu at ddibenion cludo nwyddau neu drelar.  Ni all yr uchder cyffredinol fod yn fwy na 2.44 metr ac ni all yr hyd cyffredinol fod yn fwy na 5.49 metr.​

​Cosbau

19. Cyflwynir eich trwydded gyda llythyr yn egluro sut i’w defnyddio. Mae’n rhaid glynu wrth y canllawiau a restrir yn y llythyr hwnnw ar bob adeg.

20. Mae’n rhaid arddangos pob trwydded yn glir a’u gosod ar y sgrîn wynt neu eu gosod ar ddashfwrdd y cerbyd, gan sicrhau bod yr holl fanylion perthnasol yn weladwy i Swyddog archwilio ar bob adeg.

21. Os nad ydych chi’n llwyddo i gael trwydded ddilys am ba bynnag reswm, nid oes gennych chi hawl i barcio mewn lle, ardal na pharth parcio i breswylwyr, a bydd yn rhaid i chi ddod o hyd i rywle cyfreithlon arall.

22. Mae’n rhaid i unrhyw gerbyd sy’n parcio mewn lle parcio ar gyfer deiliad trwydded parcio preswylwyr yn unig, sicrhau bod pob rhan o’r cerbyd o fewn cyfyngiadau’r lle parcio.

2
3. Os ydych chi’n torri’r telerau ac amodau hyn, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Hysbysiad Tâl Cosb (dirwy barcio).

D
atganiad

Caiff y wybodaeth a roddwch ei phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 at ddibenion bodloni ein hymrwymiad cyfreithiol. Caiff y wybodaeth ei thrin yn gyfrinachol, fodd bynnag fe’i rhennir gyda Swyddfa Archwilio Cymru at ddibenion atal a darganfod twyll, ynghyd â sefydliadau eraill pan fydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut mae Cyngor Caerdydd yn delio â data personol, gweler ein
polisi preifatrwydd.​​​​​​​​​​​​​​​​​​

Dilysrwydd trwyddedau



1. Dim ond tra eu bod yn cael eu defnyddio gan berson sy'n byw yn yr eiddo y gwneir y cais ar ei gyfer y mae trwyddedau preswylwyr yn ddilys a phan fo'r cerbyd wedi'i gofrestru neu ei gadw yn yr un eiddo.

2. Caniateir uchafswm o 2 drwydded preswylwyr fesul aelwyd ar unrhyw un adeg. Os oes gan rywun drwyddedau papur ac e-drwyddedau digidol, dim ond y ddwy drwydded gyntaf a gyhoeddir fydd yn ddilys.

3. Ni ellir trosglwyddo trwyddedau (er enghraifft o un person i’r llall, neu os byddwch yn symud cyfeiriad). Rhaid i chi ganslo eich trwydded drwy eich cyfrif MiPermit Caerdydd os byddwch yn symud eiddo. Fel arall gall y Cyngor ei chanslo heb rybudd ac ni chewch ad-daliad.

4. Rhaid rhoi rhif cofrestru unrhyw gerbyd enwebedig yn gywir ac yn llawn. Bydd unrhyw wallau yn annilysu'r drwydded.

5. Dim ond rhwng y dyddiadau a'r amseroedd a nodir ar y drwydded y mae trwydded yn ddilys. Gall negeseuon atgoffa adnewyddu gael eu hanfon allan o gwrteisi ond nid ydynt yn ofyniad cyfreithiol. Chi sy’n gwbl gyfrifol am adnewyddu trwydded. Os nad oes gan gerbyd drwydded, rhaid dod o hyd i fan parcio amgen a chyfreithlon.​

6. Nid yw trwyddedau'n ddilys tra bod gan gerbyd 3 neu fwy o Hysbysiadau Tâl Cosb (HTC) heb eu talu yng Nghaerdydd. Rydym yn diffinio HTC heb ei dalu fel HTC sydd wedi symud y tu hwnt i'r cam lle gellir cyflwyno sylwadau.

7. Mae trwyddedau’n parhau’n eiddo digidol i’r Cyngor, a gall y Cyngor ganslo trwydded ar unrhyw adeg ac am unrhyw reswm pan benderfyna fod gwneud hynny’n rhesymol angenrheidiol. Rhoddir hysbysiad i ddeiliad y drwydded.

Defnyddio trwyddedau

8. Gall trwyddedau coch gael eu defnyddio ar gyfer mannau parcio Deiliaid Trwydded Preswylwyr yn Unig neu Ddeiliaid Trwydded Preswylwyr Defnydd a Rennir, a hynny ar y stryd/​​​oedd a enwir ar y drwydded. Bydd arwyddion rheoleiddio yn yr ardal yn dangos ble y gallwch ac na allwch barcio, a rhaid cydymffurfio â hwy bob amser.

9. Nid yw trwyddedau byth yn gwarantu lle parcio.

10. Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Swyddog Heddlu, SCCH neu Swyddog Gorfodi Sifil (fel cyfarwyddyd i symud eich cerbyd), hyd yn oed os oes gan eich cerbyd drwydded ddilys.

11. Gall y Cyngor atal y defnydd o unrhyw fan parcio lle bo angen. Bydd arwyddion atal melyn yn dangos lle mae parcio wedi'i atal dros dro, ac nid yw trwydded yn ddilys mewn man parcio lle mae parcio wedi'i atal.

Ad-daliadau

12. Darperir ad-daliadau am unrhyw fisoedd llawn sy'n weddill ar drwyddedau nad oes eu hangen mwyach. Codir ffi weinyddol o £5.00 am bob ad-daliad o'r fath.

Gorfodi trwyddedau

13. Ni ellir ailwerthu na chyfnewid trwyddedau na’u rhoi i unrhyw un er budd neu wobr bersonol neu ariannol.

14. Rhaid i chi sicrhau y cydymffurfir â'r telerau ac amodau hyn. Fel arall, gallai Hysbysiad Tâl Cosb (HTC - dirwy barcio) gael ei chyflwyno.

15. Gall camddefnyddio neu ddefnyddio trwyddedau'n dwyllodrus hefyd arwain at atal neu ganslo cyfrif perchennog y drwydded, canslo unrhyw drwyddedau sy'n gysylltiedig â'r cyfrif hwnnw a gwrthod ceisiadau am drwyddedau newydd.​​

Trwyddedau parcio ymwelwyr

1. Rhoddir trwyddedau ymwelwyr i’ch galluogi i gofrestru cerbydau sy'n cael eu defnyddio gan ymwelwyr â'ch eiddo ar gyfer arhosiad/sesiwn parcio ymwelwyr.

2. Ni roddir trwyddedau ymwelwyr ar gyfer cerbydau sy'n eiddo i breswylwyr neu sy'n cael eu defnyddio gan breswylwyr, i alluogi parcio gan gymudwyr neu am unrhyw gyfnod nad yw gyrrwr y cerbyd yn ymweld â'ch cartref yn bersonol.

3. Bydd eich sesiynau ymwelwyr yn caniatáu i’ch ymwelwyr barcio mewn mannau parcio Deiliaid Trwydded Preswylwyr yn Unig neu Ddeiliaid Trwydded Preswylwyr Defnydd a Rennir, a hynny ar y stryd/oedd a enwir ar y drwydded. Bydd arwyddion rheoleiddio yn yr ardal yn dangos ble gall ac na all eich ymwelydd barcio, a rhaid cydymffurfio â hwy bob amser.

4. Nid yw sesiynau ymwelwyr yn berthnasol mewn mannau talu ac arddangos/aros, hyd yn oed os caniateir i ddeiliaid trwydded preswylwyr barcio yno fel arfer.

5. Nid yw lle parcio byth wedi’i warantu.

6. Wrth gofrestru cerbyd ymwelydd ar gyfer sesiwn parcio, rhaid nodi ei farc cofrestru cerbyd yn llawn ac yn gywir. Bydd unrhyw wallau yn annilysu sesiwn y drwydded.

7. Ni ellir cynnig ad-daliad ar gyfer sesiynau ymwelwyr.

8. Ni ellir ailwerthu na chyfnewid trwyddedau na sesiynau, na’u rhoi i unrhyw un er budd neu wobr bersonol neu ariannol.

9. Rhaid sicrhau y cydymffurfir â'r telerau ac amodau hyn. Fel arall, gallai Hysbysiad Tâl Cosb (dirwy barcio) gael ei chyflwyno. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich ymwelwyr yn gwbl ymwybodol o'u cyfrifoldebau a'r telerau ac amodau hyn.

10. Bydd camddefnyddio neu ddefnyddio trwyddedau ymwelwyr yn dwyllodrus yn arwain at gamau gorfodi yn erbyn perchennog y drwydded. Gallai hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, atal neu ganslo cyfrif perchennog y drwydded, canslo unrhyw drwyddedau sy'n gysylltiedig â'r cyfrif hwnnw, gwrthod ceisiadau am drwyddedau newydd neu erlyniad troseddol. ​
​​

© 2022 Cyngor Caerdydd