Mae
Traveline CymruDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd hefyd yn cynnig gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer mynd a dod yng Nghaerdydd gan gynnwys bysus a threnau.
Tocynnau Bws
Bydd yr holl ddinasyddion oedrannus a phobl anabl yn cael
teithio am ddim ar wasanaethau bysus lleol ledled Cymru os oes ganddynt docyn dilys.
Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn ar
wefan Llywodraeth CymruExternal link opens in a new window.
Gallech gael rhagor o wybodaeth am eich opsiynau o ran teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ar wefan
Cadw Caerdydd i Symud sydd â thudalennau penodol ar gyfer teithio ar drenau a bysus.
Tacsis
Mae llawer o safleoedd tacsis o gwmpas canol y ddinas lle gallwch gael tacsi trwyddedig.
Mae tacsis hacni yn ddu a gwyn neu'n debyg i rai Llundain. Mae ganddynt arwydd tacsi ar y to a phlât trwydded ar gefn y cerbyd. Dim ond tacsis hacni y gellir chwifio amdanynt o ochr y ffordd.
Ni ellir chwifio am dacsis llogi preifat ar ochr y ffordd a rhaid eu harchebu ymlaen llaw. Nid oes ganddynt olau ar y to ac mae ganddynt blât trwydded ar gefn y cerbyd.
Wedi gordalu am dacsi neu gael eich gwrthod gan un?
Os ydych chi’n credu eich bod wedi talu gormod am dacsi neu fod ffi wedi cael ei gwrthod, rhowch:
- rif y gyrrwr/car,
- y dyddiad a'r amser,
- y lleoliad, neu
- fanylion y daith.
Gwneud cwyn
Gwasanaethau eraill
Rhoi gwybod am loches bws wedi'i difrodi.
Rhoi gwybod am rywbeth