Mae Strydoedd Ysgol wedi'u cyflwyno i ddisodli'r cau ffyrdd drwy ddefnyddio staff yn:
- Ysgol Gynradd Rhiwbeina ar Lôn-y-dail a Lôn Ucha ac
- Ysgol Coed y Gof ar Lime Grove a Bramble Close
Mae Strydoedd Ysgol yn ardaloedd o amgylch mynedfeydd ysgolion sy’n barthau cerddwyr yn ystod amserau brig gollwng a chasglu disgyblion, gyda’r nod o:
- helpu plant i ddod i’r ysgol yn ddiogel,
- hyrwyddo teithio llesol a
- lleihau llygredd aer.
Defnyddir camerâu gorfodi i fonitro strydoedd ysgol. Caniateir mynediad i breswylwyr, deiliaid Bathodyn Glas a gofalwyr yn ystod amserau cyfyngedig.
Gallwch wneud cais am drwydded trwy
wefan MiPermit neu ar yr Ap.
Erbyn hyn mae 16 Stryd Ysgol yng Nghaerdydd.
Mae Strydoedd Ysgol ar gyfer Ysgol Gynradd Rhiwbeina ac Ysgol Coed y Gof wedi cael eu cyflwyno gan ddefnyddio proses gyfreithiol o'r enw Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol sy'n para am 18 mis. Cyn diwedd y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol, bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a ddylid gwneud y Stryd Ysgol yn barhaol, trwy Orchymyn Rheoleiddio Traffig.
Dweud eich dweud
Mae'r ymgynghoriad hwn bellach ar gau.