Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwelliannau i Daith Taf - Parc Hailey


Mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu cynigion i wella'r rhan hir sefydledig o Daith Taf sy'n mynd drwy Barc Hailey rhwng Heol y Bont a Heol Tŷ Mawr.

Mae’r Daith Taf yn rhan o rwydwaith o lwybrau y mae’r Cyngor am eu datblygu a/neu eu gwella er mwyn annog mwy o deithio llesol a chyflawni ei ddyletswyddau statudol y gosodwyd arno gan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru).  

Mae'r llwybr presennol drwy Barc Hailey yn cael ei rannu'n swyddogol gan gerddwyr a beicwyr fel y bu ers blynyddoedd lawer. Y cynigion yw lledu’r llwybr ac ailosod rhan ohono er mwyn galluogi holl ddefnyddwyr y parc i symud yn ddiogel o fewn neu drwy'r parc. Ein nod yw gwella'r profiad i holl ddefnyddwyr y llwybr.

Byddai rhannau o'r cynllun arfaethedig yn rhedeg ar hyd llinell amgen. Mae rhannau eraill o'r llwybr yn dilyn llinell amgen. Ar y pen gogleddol byddai'r llinell amgen yn osgoi rhan gul o'r llwybr presennol sy'n pasio'n agos at goed. Byddai'r llwybr presennol hefyd yn cael ei gadw. 

Yn y pen deheuol cynigir llinell amgen er mwyn osgoi nifer o gyfyngiadau, megis:

  • agosrwydd y coed, 
  • seilwaith presennol, a 
  • nodweddion ecolegol gan gynnwys diogelu rhywogaethau o ffwng.


Bydd arwyddion priodol yn cael eu cynnwys yn y cynllun i gynghori defnyddwyr y llwybr sut i deithio’n ddiogel ac i annog ymddygiad ystyriol. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan ymgyrch hyrwyddo i atgyfnerthu negeseuon allweddol i grwpiau gwahanol o ddefnyddwyr.

Amlygodd adborth o'r gweithgareddau ymgynghori ac ymgysylltu nifer o bryderon gyda'r cynigion. Yn benodol:

  • colli mannau gwyrdd, 
  • lled y llwybr a phryderon y bydd hyn yn arwain at feicwyr yn teithio'n gyflymach, 
  • agosrwydd y llwybr arfaethedig at y droedffordd wrth ymyl Mary Street, 
  • agosrwydd ardaloedd chwarae'r plant a phryderon ynghylch diogelwch hyn, 
  • effaith weledol y cynllun, a 
  • phryderon am ddŵr glaw ffo ac effeithiau posibl llifogydd.


Gwnaed nifer o newidiadau i'r cynigion gwreiddiol i fynd i'r afael â'r pryderon hyn:

  • ailosod y llwybr arfaethedig ymhellach i ffwrdd o Mary Street.
  • lleihau lled y llwybr arfaethedig o 5 metr i 4 metr.
  • yynnu'r murlun sydd wedi ei baentio yng nghyffiniau’r ardaloedd chwarae i blant.
  • rhoi marciau 'Araf' ar y llwybr a marciau ‘Rhannwch gyda Gofal’.
  • gosod suddfannau dŵr pwrpasol i leihau dŵr ffo i fynd i'r afael â phryderon llifogydd.







Ymgynghorwyd ar y cynigion yn ffurfiol am y tro cyntaf cyn pandemig Covid19 ym mis Mawrth 2020.

Gweithgareddau ymgynghori


Cynhaliwyd digwyddiad ymgynghori yn 2il Grŵp Sgowtiaid Llandaf, Belle Vue Crescent ar 14 Mawrth 2020 rhwng 10am a 2pm i edrych ar gynllun Parc Hailey, a’i drafod. Daeth llawer o bobl i’r digwyddiad. Hyrwyddwyd yr ymgynghoriad drwy'r gweithgareddau canlynol:


  • Arolwg byr gyda’r dogfennau ymgynghori ar wefan Cyngor Caerdydd
  • Dosbarthu llythyrau i eiddo yng nghyffiniau'r cynllun
  • Hysbysiadau safle yng nghyffiniau'r cynllun
  • E-bost at randdeiliaid ac ymgyngoreion statudol
  • Datganiad i’r wasg
  • Gwybodaeth ar dudalen flaen gwefan y Cyngor
  • Cyfryngau cymdeithasol  

Oherwydd cyfyngiadau cyfnod clo Covid19 a ddaeth i rym ddiwedd mis Mawrth 2020, nid oedd yn bosibl cynnal unrhyw ddigwyddiadau ymgynghori pellach, fodd bynnag, ymestynnwyd y cyfnod ymgynghori am bythefnos arall.
O ystyried yr adborth a gafwyd o'r ymgynghoriad ffurfiol cychwynnol, gwnaed nifer o newidiadau i'r cynllun arfaethedig.

Mae'r Cyngor bellach yn cynnal mwy o ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid ar y newidiadau hyn.

Cynhaliwyd digwyddiad galw heibio ymgysylltu yn Neuadd Sgowtiaid Ystum Taf ddydd Mercher 19 Ebrill rhwng 5pm ac 8pm.

Cyn y digwyddiad, postiwyd llythyrau gwahoddiad i dros 570 o eiddo preswyl ar strydoedd i'r gorllewin o Heol yr Orsaf ac i'r de (a gan gynnwys) y rhan o Heol Tŷ Mawr yn Ward Ystum Taf. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd i'r digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Roedd copïau papur o'r cynlluniau trefniant cyffredinol a darnau o ddelweddau 3D y cynllun yn cael eu harddangos ar waliau a byrddau. Dangosodd swyddogion fideo o'r delweddau 3D ar gyfrifiadur personol a monitor yn y digwyddiad.
Yn dilyn cam cyntaf yr ymgynghoriad, gwnaed y newidiadau canlynol i ddyluniad y cynllun a gyflwynwyd yn y digwyddiad ymgynghori ym mis Ebrill 2023:

  • Mae'r llwybr wedi'i adlinio wrth ymyl Mary Street i gynnal parcio preswyl a pharcio i ymwelwyr ar ochr ddeheuol Mary Street.  Bydd cysylltiad ychwanegol i gerddwyr â'r llwybr troed ar Mary Street yn rhoi gwell cysylltedd i gerddwyr sy'n defnyddio'r parc o Mary Street.
  • Defnyddir marciau llawr 'Pwyll Pia Hi' drwy gydol y cynllun i hysbysu'r holl ddefnyddwyr eu bod yn defnyddio man a rennir o fewn amgylchedd parciau.  
  • Mae lled y llwybr wedi'i leihau o 5m i 4m a fydd yn lleihau faint o le sydd ei angen i hwyluso'r rhannau newydd o'r llwybr troed a'r ardal o arwyneb caled newydd yn y parc.
 
 






Adroddiad yr ymgynghoriad

Ymgynghorwyd yn ffurfiol ar y cynigion hyn ym mis Mawrth 2020. Gan ddefnyddio’r adborth o'r ymgynghoriad, mae nifer o newidiadau wedi cael eu gwneud i’r cynllun arfaethedig. Ymgysylltwyd ymhellach ar y newidiadau rhwng 13 Gorffennaf ac 11 Awst 2023. 


© 2022 Cyngor Caerdydd