Sut allwn i drefnu addasiad i’r map terfynol?
Dim ond trwy orchymyn cyfreithiol y gellir newid y map terfynol o hawliau tramwy cyhoeddus.
Y Math o Orchmynion Cyfreithiol am Lwybrau Cyhoeddus
Os bydd hawl tramwy cyhoeddus yn cael ei gofnodi’n gywir ar y map terfynol ond mae rheswm i symud neu ddileu’r llwybr gallwch wneud cais am orchymyn llwybr cyhoeddus. Gellir gwyro neu ddiddymu hawliau tramwy cyhoeddus er budd y cyhoedd neu’r perchennog tir. Gellir creu llwybrau newydd hefyd drwy orchymyn llwybrau cyhoeddus, trwy gytundeb gyda’r perchennog tir fel arfer.
Mae nifer o wahanol ffyrdd o newid y llwybrau cyfredol ar y Map Terfynol.
Os bydd aelod o’r cyhoedd yn gallu profi 20 mlynedd o ddefnydd rhydd a dirwystr trwy hawl, heb unrhyw gamau gan y perchennog tir i wrthod mynediad yna tybir bod y perchennog tir yn caniatáu defnydd cyhoeddus.
Gall yr aelod yma o’r cyhoedd wneud cais i’r Awdurdod Priffyrdd i hawlio’r llwybr o dan Adran 53 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, sy’n berthnasol i Adran 30 Deddf Priffyrdd 1980.
O dan Orchymyn Creu, mae gan y Cyngor y grym i bennu hawl tramwy, ac ad-dalu’r perchennog tir (h.y. Llwybr Arfordir Cymru). Gall perchnogion tir glustnodi tir, y gellir wedyn ei ddefnyddio ar gyfer priffordd. Weithiau gall hyn ddigwydd o fewn y cwmni (h.y. Gallai Parciau/Tai drosglwyddo llwybr i’r adran briffyrdd i’w ddefnyddio fel priffordd y gellir ei chynnal yn gyhoeddus).
Gellir addasu aliniad llwybr troed neu lwybr ceffyl drwy Orchymyn Gwyro. Mae hyn yn berthnasol fel arfer lle mae cais cynllunio ac y mae’n well gan y defnyddwyr fynd ar lwybr mwy dymunol. Dim ond Perchnogion Tir sy’n gallu gwneud cais am Orchymyn Gwyro ac mae’n rhaid i’r Awdurdod Priffyrdd gytuno i’r aliniad newydd fel llwybr gwell ac yr un mor hwylus.
Mae amrywiol ffyrdd o ddiddymu Priffordd ac isod fe welwch y gorchmynion cyfreithiol mwy cyffredin a ddefnyddir ond, ymhob achos, ni ddylid diddymu Priffordd gan yr Awdurdod lle mae rhywun yn cael budd materol.
Mae amrywiol ffyrdd y gellir diddymu Priffordd ac isod mae’r gorchmynion cyfreithiol mwy cyffredin a ddefnyddir ond, ymhob achos, ni ddylid diddymu Priffordd gan yr Awdurdod lle mae rhywun yn cael budd materol.
Ymhob achos, yn ddieithriad, dyma’r ffordd gyfreithiol o newid defnydd y briffordd sy’n berthnasol i fusnesau neu ddeiliad tŷ unigol. Mae’n un o amodau Cynllunio a chaiff ei weinyddu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n sicrhau na ellir dangos bod yr Awdurdod Priffyrdd yn methu yn ei ddyletswydd gyfreithiol o dan Adran 130 i gadw’r briffordd yn agored ac wedi’i chadw’n ddiogel.
Mae gofyn i’r Awdurdod Priffyrdd fynd i’r Llys Ynadon i gynrychioli’r achos o gau priffordd.
Gorchmynion Addasu’r Map Terfynol (DMMO)
Bydd unrhyw rai o’r gorchmynion cyfreithiol a gadarnhawyd, sydd wedi eu rhestru uchod, yn gofyn am DMMO er mwyn diweddaru’r Map Terfynol yn ffisegol i ddangos y newid. Mae’r tîm Hawliau Tramwy’n mynd i gynhyrchu Map Terfynol newydd wedi’i ddiweddaru bob 2-3 blynedd yn dibynnu ar y nifer o newidiadau sydd wedi digwydd.
Ffurflenni Cais
Os hoffech ofyn am gais i newid y Map Terfynol (h.y. creu llwybr newydd, yn gwyro llwybr presennol, ac ati) Gwnewch gais am un isod.
*Bydd newidiadau i lwybrau oherwydd datblygiad yn derbyn sylw ar wahân drwy’r Broses Cais Cynllunio.
Ni fydd y manylion a ddarparwch ar y ffurflen yma’n cael ei ddefnyddio at unrhyw bwrpas arall.
Gofyn am rywbeth