Loading
Fy Nghymdogaeth
Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.
Find facilities in my area
Diogelwch Ffyrdd
Page Content
Rhoi Hyfforddiant Beicio Safonol Cenedlaethol i ddechreuwyr a beicwyr mwy profiadol.
Cynigiwn Hyfforddiant Beicio Safonau Cenedlaethol (lefel 1 a 2) i holl ysgolion cynradd Caerdydd.
Nod ein Menter Swyddog Iau Diogelwch ar y Ffyrdd yw tanlinellu i rieni a gwarchodwyr y peryglon sydd ynghlwm â pharcio a thagfeydd traffig ger mynedfeydd ysgolion.
Mae Kerbcraft yn dysgu plant ym mlwyddyn 2 i fod yn gerddwyr diogel drwy eu cymryd ar ffyrdd a dangos iddynt sut mae gwneud y penderfyniadau cywir i aros yn ddiogel.
Mae amrywiol adnoddau a chyrsiau hyfforddi yn bodoli i alluogi beicwyr profiadol i wella eu sgiliau a chadw’u hunain yn ddiogel.
Caiff swyddogion croesi ysgol eu cyflogi er mwyn cynnig llwybr mwy diogel i ddisgyblion deithio i’r ysgol ac oddi yno.
Mae pob ysgol yn cael ei hannog i ddatblygu a gweithredu cynlluniau teithio i’r ysgol i helpu i wella diogelwch disgyblion a rhieni yn teithio i’r ysgol.
Nod y cynllun Streetwise yw codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd i sicrhau bod gan blant y sgiliau angenrheidiol er mwyn teithio i’w hysgol uwchradd.
Mae’r Bws Cerdded yn ffordd amgen i blant a rhieni i deithio i ac o’r ysgol yng Nghaerdydd. Wedi ei staffio un ai gan staff ysgol neu wirfoddolwyr o rieni a hyfforddwyd.
Nod y Cynllun Hyfforddi Teithio Annibynnol yw rhoi’r sgiliau allweddol a’r hyder i ddisgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) i deithio o amgylch y ddinas yn annibynnol, gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Rhannwch y dudalen hon: