Fel y mae gan bob plentyn sy’n derbyn gofal ei weithiwr cymdeithasol ei hun, mae gan bob gofalwr maeth weithiwr cymdeithasol goruchwyliol yn ei gefnogi hefyd. Ar ben hynny, gallwch fynychu grwpiau cymorth lle byddwch yn cwrdd ac yn sgwrsio â gofalwyr eraill, rhai yn yr un sefyllfa â chi ac eraill yn fwy profiadol, a rhannu syniadau a phryderon. Byddwn ni’n gwneud yn siŵr bod gennych yr holl offer sydd ei angen arnoch i ofalu am blentyn. Mae hyn yn cynnwys popeth o offer babanod a chelfi ystafell wely i system TGCh lawn i blant dros 5 oed.
Hefyd, cewch “Gyfaill” Maethu – byddwch yn cael eich cyflwyno i un o'n gofalwyr mwy profiadol a fydd yn barod i ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych a rhoi’r cyngor a’r cymorth a fydd ei angen arnoch yn yr ychydig fisoedd cyntaf.
Budd-daliadau ar gyfer Gofalwyr Maeth
Cewch fynediad llawn i gyfleusterau hamdden Caerdydd gyda Cherdyn Actif llawn a fydd yn golygu y cewch chi a’ch teulu fanteisio ar byllau nofio, ystafelloedd iechyd a ffitrwydd, dosbarthiadau ffitrwydd, beicio, chwaraeon a chyfleusterau athletau mewn 12 o leoliadau ledled Caerdydd.
Byddwch hefyd yn dod yn aelod o’r Rhwydwaith MaethuDolen yn agor mewn ffenestr newydd lle gallwch gael gafael ar yr holl gymorth, arweiniad a chyngor a gynigir i ofalwyr maeth fel chi ledled y DU.
Beth fydda i’n ei gael yn ariannol?
Mae ein taliadau wythnosol yn cynnwys swm i dalu am y costau o ofalu am blentyn o ddydd i ddydd, swm a delir ar raddfa a argymhellir gan y Llywodraeth. Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar eich profiad ac oedran y plentyn neu blant rydych yn gofalu amdanynt. Os ydych yn ofalwr maeth newydd, byddwch yn cychwyn ar yr hyn a elwir yn Fand 1. Mae’r system fandio yn gysylltiedig â'ch sgiliau, gwybodaeth a galluoedd.
Ar ôl bod yn ofalwr maeth am 6 i 12 mis, cewch gyfle i symud drwy'r bandiau gofalu eraill. I adlewyrchu’r gwaith a wnewch, cewch daliad wythnosol uwch.
Bandiau tâl maethu
0-4 oed |
£149.00 |
£213.86 |
£324.83 |
5-10 oed |
£146.05 |
£210.91 |
£321.88 |
11-15 oed |
£181.81 |
£246.67 |
£357.64 |
16+ |
£221.13 |
£285.99 |
£396.96 |
Lwfansau Ychwanegol
Yn ogystal â’ch taliadau wythnosol byddwch yn cael lwfansau ar gyfer gwyliau, pen-blwyddi a gwyliau crefyddol fel y Nadolig. Unwaith eto, mae’r swm o arian y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar oedran y plentyn.
Byddwn yn rhoi lwfans dillad cychwynnol i chi ar gyfer y plentyn ynghyd â thaliadau ychwanegol pan fyddwch yn gwario arian sylweddol o ganlyniad i faethu, er enghraifft, rhai costau teithio.
Lwfansau sydd ar gael
0-4 oed |
£143.00 |
£143.00 |
£286.00 |
5-10 oed |
£146.05 |
£146.05 |
£292.10 |
11-15 oed |
£181.81 |
£181.81 |
£363.62 |
16+ |
£221.13 |
£221.13 |
£442.26 |
Pan nad ydych yn gofalu am blentyn
Os nad oes gennych blentyn yn eich gofal, byddwn yn talu tâl cadw i ofalwyr Band 2 a Band 3 am hyd at 6 wythnos. Nodwch: er nad yw taliadau cadw fel arfer yn cael eu talu i ofalwyr Band 1, bydd angen rhoi’r taliadau hyn iddynt dan rai amgylchiadau.
Bandiau cadw gofalwyr
Bandiau 1 + 2 |
£64.86 |
Band 3 |
£175.83 |
Cynllun Arddegau
Gyda’r cynllun arddegau fe gewch:
- £396.96 y plentyn, yr wythnos
- tâl cadw o £175.83 yr wythnos, am y 6 wythnos gyntaf wag ar ôl gofalu am blentyn
- taliadau lwfans gwyliau o hyd at £442.27 y plentyn
Cynllun Gofal Cymorth
Caiff taliadau eu gwneud i ofalwyr y Cynllun Gofal Cymorth yn wythnosol ar sail pro rata, a byddant ar yr un gyfradd â Gofalwyr Maeth Caerdydd sy’n cynnig lleoliadau seibiant, byrdymor a hirdymor.
Caiff taliadau eu gwneud fel y bo’n briodol mewn perthynas ag oedran y plentyn a lefel Band y gofalwr maeth, hynny yw, Band 1, 2 neu 3.
Cynllun Gofal Remánd
Gyda’r Cynllun Gofal Remánd fe gewch:
- £396.96 y plentyn, yr wythnos
- tâl cadw o £175.83 yr wythnos, am y 6 wythnos gyntaf wag ar ôl gofalu am blentyn
- pythefnos o wyliau â thâl
Cysylltu â ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am faethu ar ran Caerdydd cysylltwch â'n tîm maethu.
029 20873797