I ddeall sut y gallwn eich helpu i gael y cymorth cywir ar yr adeg gywir bydd angen i ni siarad gyda chi am eich sefyllfa. Gelwir hyn yn asesu.
Mae’r broses asesu yn hyblyg, yn dibynnu ar eich anghenion chi, a gall gael ei gyflawni gan ystod o weithwyr proffesiynol yn y maes gofal cymdeithasol yn gweithio ynghyd.
Beth sydd angen i chi ei ddweud wrthym ni?
Mae’r asesiad fel arfer yn cynnwys cwestiynau ynghylch:
-
Eich amgylchiadau personol a’r problemau yr ydych yn eu cael a arweiniodd at ofyn am help
-
Yr hyn sy’n bwysig i chi – eich nodau personol
-
Yr hyn sy’n eich atal rhag cyflawni’r nodau hynny a’r datrysiadau posibl
-
Risgiau i chi neu bobl eraill os na chyflawnir y canlyniadau hynny
-
Eich cryfderau a’ch galluoedd personol
Mae’r asesiad yn ddarlun ohonoch chi a’ch anghenion ar adeg benodol. Gellir ei ailadrodd ar unrhyw bryd.
Mae gennych hawl i gael eiriolwr neu rywun i’ch cefnogi os oes angen help arnoch i ateb y cwestiynau hyn.
Ar ôl yr asesiad, byddwn yn gweithio gyda chi i gytuno ar ba fath o gymorth fyddai orau i chi, pryd a pha mor aml yr hoffech y cymorth hwnnw.
Beth os bydd fy amgylchiadau yn newid?
Gall eich anghenion neu amgylchiadau newid yn y dyfodol. Dyna pam y byddwn yn adolygu eich cynllun ar ddyddiad y cytunwyd arno gyda chi ac yn gwirio’n rheolaidd ei fod yn diwallu eich anghenion.
Cynhelir y gwiriadau hyn fel arfer:
-
Ar ôl y 4-6 wythnos gyntaf
-
Unwaith y flwyddyn
-
Pryd bynnag yr ydych yn rhoi gwybod i ni bod eich anghenion wedi newid
Rhowch wybod i ni ar unrhyw adeg os yw eich sefyllfa’n newid fel y gallwn addasu eich cynllun a sicrhau eich bod yn cael yr help cywir.
Defnyddio eich gwybodaeth bersonol
Byddwn yn gofyn am eich caniatâd i rannu gwybodaeth bersonol yr ydych wedi’i rhoi am eich hun gyda gweithwyr proffesiynol eraill yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol a fydd yn rhan o’ch gofal.
Gallwn eich sicrhau:
-
Y bydd eich gwybodaeth yn chael ei rhannu’n gyfrifol ac yn ddiogel
-
Trwy rannu gwybodaeth yn y ffordd hon ni fydd rhaid i chi ailadrodd eich stori i wahanol bobl ar wahanol adegau
-
Bydd yn eich helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch mor gyflym â phosibl
Mae gennych yr hawl i ddweud ‘na’ os nad ydych am i ni rannu eich gwybodaeth.
Gofyn am asesiad
Os ydych chi’n meddwl bod angen gwasanaethau gofal arnoch chi neu rywun yr ydych yn ei nabod, cysylltwch â ni i gael asesiad.
029 2023 4234
029 2078 8570
– rhif argyfwng 24 awr
Gofyn am asesiad i rywun arall
Gallwch wneud atgyfeiriad i rywun sydd angen help a gofal. Bydd angen i ni ofyn rhywfaint o gwestiynau i chi am y person hwnnw:
-
Manylion cyffredinol, fel enw, cyfeiriad, dyddiad geni ac oedran.
-
Rheswm dros gysylltu
-
Hanes meddygol / iechyd meddwl
-
Sut i gysylltu â’r person
-
Risgiau posibl
Nid oes angen i chi wybod popeth am yr unigolyn cyn i chi gysylltu â ni, a rhannwch eich pryderon gyda ni.