Gwasanaeth Angladdau Cyngor Caerdydd
I drefnu angladd gyda Chyngor Caerdydd, cysylltwch â:
Gwasanaeth Angladdau Cyngor Caerdydd
Michael G Ryan Son and Daughters Cyf
302a Heol y Gogledd
Caerdydd
CF14 3BN
029 2062 6101
michaelgryanfun@aol.com
www.michaelgryansonanddaughters.com
Dyma restr o’r trefniadau angladd safonol a gynigir gan Wasanaeth Angladdau Cyngor Caerdydd:
- casglu’r ymadawedig o leoliad yng Nghaerdydd
- arch o dderw golau neu dderw tywyll, gydag addurniadau a gosodiadau
- paratoi a gwisgo’r corff
- gweld y Corff mewn Capel Gorffwys
- hers ac un car limwsîn
- gwasanaeth angladd urddasol
Dim ond pan fo’r ymadawedig wedi bod yn preswylio yng Nghaerdydd a bod yr angladd yn cael ei gynnal mewn mynwent neu amlosgfa a reolir gan y Cyngor y mae’r gwasanaeth hwn ar gael.
Cost angladd
Gall fod yn anodd amcangyfrif cyfanswm cost angladd, a gall hyn achosi pryder i lawer o bobl.
Gallwn roi amlinelliad o’r costau ym Mynwent Thornhill ac Amlosgfa Caerdydd i roi brasamcan i chi o’r costau.
Amlosgi
- Trefniadau angladd gan Michael G Ryan, Son and Daughters - £1030
- Ffi amlosgi yn cynnwys y defnydd o gapel y Wenallt neu gapel Briwnant (mae system gerddoriaeth ar gael) a gwasgaru’r gweddillion amlosgedig yn un o’r gerddi coffa heb unrhyw un yn bresennol - £480
- Ffioedd meddygon am dystysgrifau amlosgi (amcangyfrif) - £157
- Prynu bedd newydd (100 mlynedd) am ddwy gladdedigaeth - £650
- Ffi claddu i balu bedd, ei baratoi a’i ôl-lenwi = £580
- Gwasanaeth yn nghapel y Wenallt neu gapel Briwnant yn cynnwys cerddoriaeth - £80
Nid yw’r amcangyfrif hwn o gostau yn cynnwys teyrngedau blodau, ffioedd eglwys a chlerigwyr na hysbysiadau marwolaeth.
Claddedigaeth
- Trefniadau angladd gan Michael G Ryan, Son and Daughters - £1030
- Prynu bedd newydd (100 mlynedd) am ddwy gladdedigaeth - £650
- Ffi claddu i balu bedd, ei baratoi a’i ôl-lenwi - £580
- Gwasanaeth yn nghapel y Wenallt neu gapel Briwnant yn cynnwys cerddoriaeth - £80
Yn ôl i'r brig
Dewis trefnydd angladdau
Er mwyn eich helpu i ddewis pa drefnwr angladdau i’w ddefnyddio, mae’n werth nodi bod rhai yn aelodau o sefydliadau proffesiynol a allai fod yn gweithredu cod ymddygiad a gweithdrefn gwyno.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y dolenni canlynol:
Cymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau (NAFD)
Cymdeithas Trefnwyr Angladdau Perthynol ac Annibynnol (SAIF)
Os oes gennych reswm i gwyno am drefnwr angladdau gallwch gysylltu â’r Adran Safonau Masnach.
Yn ôl i'r brig
Trefnu angladd ar eich pen eich hun
Nid oes rhaid defnyddio gwasanaethau trefnwr angladdau i drefnu angladd. Fodd bynnag, os ydych yn trefnu angladd ar eich pen eich hun, byddwch dal yn gorfod gwneud y canlynol:
- Cael tystysgrif marwolaeth gan y meddyg yn y feddygfa neu’r ysbyty
- Cofrestru’r farwolaeth yn yr ardal lle mae’r farwolaeth yn digwydd
Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith
Gofynion Cyfreithiol
P’un a ydych yn dewis trefnu claddedigaeth neu amlosgiad, mae’r gyfraith yn ei gwneud hi’n ofynnol i chi gyflwyno ffurflenni penodol i’r awdurdod claddu neu’r awdurdod amlosgi. Ffoniwch ni ar 029 2054 4820 er mwyn trafod beth yn union sydd ei angen.
Eirch
Rhaid cludo’r corff i’r fynwent neu’r amlosgfa mewn cynhwysydd addas, sy’n nodi enw ac oedran yr ymadawedig yn glir. Arch yw’r math o gynhwysydd a ddefnyddir gan amlaf.
Os ydych yn bwriadu gwneud eich cynhwysydd eich hun, defnyddiwch y maint lleiaf posibl ar gyfer yr ymadawedig ond gwnewch yn siŵr ei fod yn ddigon cryf i ddal ei bwysau. Os ydych yn dewis amlosgi, peidiwch â rhoi farnais na phaent olew ar y cynhwysydd.
Rhaid defnyddio deunydd sy’n lleihau’r defnydd o danwyddau ffosil. Bydd dillad a wnaed â ffibrau artiffisial, esgidiau neu eitemau rwber yn achosi mwg os cânt eu hamlosgi ac ni ddylid eu rhoi yn y cynhwysydd. Cysylltwch â staff yr amlosgfa yn gyntaf os oes unrhyw amheuon gennych.
Angladdau gwyrdd – claddu mewn tir preifat
Os ydych yn cynllunio angladd gwyrdd gan gladdu olion amlosgedig neu gladdu’r ymadawedig mewn tir preifat, cysylltwch â ni i gael cyngor.
Os oes angen cyngor neu arweiniad arnoch ar unrhyw fater sy’n ymwneud â threfnu angladd, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Yn ôl i'r brig