Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i lunio canllawiau cynllunio ar gyfer y rhanbarth.
Grŵp Cynllunio Strategol De-ddwyrain Cymru (SEWSPG)
Cynhyrchodd y grŵp hwn ganllaw cynllunio rhanbarthol ar gyfer De-Ddwyrain Cymru mewn partneriaeth â 10 o awdurdodau cynllunio eraill yn y rhanbarth. Mae’r grŵp yn parhau i gyfarfod i drafod materion rhanbarthol.
Grŵp Gwastraff Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru (SEWRWG)
Cynhyrchodd y grŵp hwn
Adolygiad Cyntaf o Gynllun Gwastraff Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru ym mis Gorffennaf 2008 mewn partneriaeth ag 11 o awdurdodau cynllunio lleol eraill yn y rhanbarth.
Cysylltwch â ni i ofyn am gopi o’r adroddiad.
Gweithgor Agregau Rhanbarthol De Cymru (SWRAWP)
Cynhyrchodd y grŵp
Ddatganiad Technegol Rhanbarthol ym mis Hydref 2008 yn nodi strategaeth ar gyfer cynhyrchu agregau yn Ne Cymru mewn partneriaeth ag 18 o awdurdodau cynllunio lleol eraill.
Cysylltwch â ni i ofyn am gopi o’r adroddiad.
Cysylltu â ni