Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hawlio budd-daliadau

​​​Darganfyddwch pa gymorth ariannol y mae gennych hawl iddo.

Cyfrifiannell budd-daliadau

Bydd ein cyfrifiannell budd-daliadau yn eich helpu i ddarganfod pa fudd-daliadau a grantiau y gallwch eu hawlio.

Help gyda’ch treth gyngor

Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i hawlio gostyngiad y dreth gyngor. 

Darganfyddwch a ydych yn gymwys a gwneud cais ar gyfer gostyngiad y dreth gyngor

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad ar eich treth gyngor. Mae'r gostyngiadau’n cynnwys: 

  • gostyngiad person anabl,
  • eithriad myfyrwyr,
  • gostyngiad person sengl. 


Gweler pa ostyngiadau y dreth gyngor sydd ar gael a sut i wneud cais. 

Help gyda’ch rhent

Os ydych o oedran gweithio ac ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.

Gallech fod yn gymwys i gael budd-dal tai os:

  • ydych chi a'ch partner o oedran pensiwn, neu
  • rydych chi’n aros mewn lloches, hostel neu rai tai â chymorth neu dros dro. 


Os oes angen cyngor arnoch ar hawlio cymorth gyda'ch rhent, cysylltwch â ni ar 029 2087 1071 neu dewch draw i’ch canolfan leol

Cymorth budd-dal anabledd

Gall ein tîm cymorth budd-dal anabledd eich helpu chi a'ch teulu os hoffech wneud cais am fudd-daliadau fel: 

  • Lwfans Byw i'r Anabl,
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol,
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) 
  • Credyd Cynhwysol (gallu cyfyngedig i gyflawni gwaith),
  • Lwfans Gweini, a
  • Lwfans Gofalwr. 


Os yw eich cais wedi'i wrthod, gallwn hefyd eich cefnogi i ofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau ailystyried eich cais a chymryd apeliadau i'r Tribiwnlys, os yw'n briodol.

Gallwn eich helpu dros y ffôn neu gallwn drefnu apwyntiad fel y gallwch ein gweld yn bersonol yn ein Hybiau. 

Cysylltwch â ni ar 02920 871 071 neu e-bostiwch cymorthbudd-dalanabledd@caerdydd.gov.uk
© 2022 Cyngor Caerdydd