Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn yn ddiweddar i adlewyrchu'r newid yn y ffordd y cynhelir ein cyrsiau oherwydd COVID-19.
Mae’r hysbysiad hwn wedi’i gynllunio i roi gwybodaeth i chi am y data sydd gennym amdanoch, sut y byddwn yn ei ddefnyddio, eich hawliau ynghlwm wrtho a’r mesurau diogelwch sydd ar waith i’w ddiogelu.
Gweld polisi.
Sut y cawn yr wybodaeth bersonol a pham mae gennym
Mae'r rhan fwyaf o'r wybodaeth bersonol a gaiff ei phrosesu gennym yn cael ei rhoi’n uniongyrchol gennych chi am un o'r rhesymau canlynol:
-
I nodi'r gwaith y byddwch yn ei gyflwyno fel rhan o'n cyrsiau galwedigaethol
Rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol, o'r ffynonellau canlynol yn yr amgylchiadau canlynol:
-
Trwy ffurflenni Google ar y gwaith a gyflwynir gennych fel rhan o'n cyrsiau galwedigaethol
Rydym yn defnyddio'r wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi i ni er mwyn nodi myfyrwyr sydd wedi cyflwyno gwaith.
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data
Dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (RhDDC DU), y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw:
(a) Eich cydsyniad.
Rydych yn gallu tynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Gallwch wneud hyn trwy gysylltu ag
addysggalwedigaethol@caerdydd.gov.uk
Sefydliadau y gallen ni rannu eich data personol â nhw
Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol â thrydydd partïon a darparwyr gwasanaeth at ddibenion:
-
Gwirio eich gwaith wedi'i gwblhau.
- Cynnig dysgu ar-lein.
Sut rydym yn storio eich gwybodaeth bersonol
Mae eich gwybodaeth yn cael ei storio’n ddiogel ar Google Drive.
Rydym yn cadw eich cyfeiriad e-bost a'r gwaith a gyflwynwyd gennych fel rhan o'ch cwrs am 6 mis ar ôl i chi gwblhau'r cwrs. Byddwn wedyn yn cael gwared ar eich gwybodaeth trwy ei ddileu o Google Drive.
Eich hawliau diogelu data
Dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau sy’n cynnwys:
Eich hawl mynediad - Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol.
Eich hawl i gywiro - Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
Eich hawl i ddileu - Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol o dan rai amgylchiadau.
Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Dan rai amgylchiadau mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol.
Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau.
Eich hawl i gludadwyedd data - Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, o dan rai amgylchiadau.
Os hoffech chi arfer unrhyw un o’r hawliau hyn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon yn gysylltiedig â phrosesu eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data fel y nodir isod. Mae gennych hefyd hawl i gofrestru cwyn mewn perthynas â’r hysbysiad preifatrwydd hwn, neu weithgareddau prosesu’r Cyngor gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
Cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data
Cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data am ragor o wybodaeth.
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
diogeludata@caerdydd.gov.uk
Ein manylion cyswllt
Addysg Alwedigaethol Caerdydd
Awdurdod Harbwr Caerdydd
Tŷ’r Frenhines Alexandra,
Cargo Road, Bae Caerdydd
CF10 4LY
07814 544244
addysggalwedigaethol@caerdydd.gov.uk
Y tro diwethaf i’r hysbysiad hwn gael ei ddiweddaru oedd 30 Mehefin 2020.