Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer brechu staff Cartrefi Gofal, Awdurdodau Lleol a'r GIG

Mae'r hysbysiad hwn yn esbonio sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu yn ystod yr amgylchiadau penodol sy'n ymwneud â COVID-19 a Strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu'r Llywodraeth i leihau nifer yr achosion o haint. 

Mae brechu’n ddull sylfaenol o ymdrin ag ymarfer iechyd y cyhoedd ac mae'n rhan o Gam Diogelu Strategaeth y Llywodraeth. Mae'r hysbysiad hwn yn egluro'n benodol sut rydym yn delio â'ch gwybodaeth ar gyfer y cyfnod brechu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.



Beth sy'n digwydd nesaf – a oes angen i chi roi caniatâd i'ch gwybodaeth gael ei rhannu?​​


Nac oes, ni ofynnir i chi am eich caniatâd – mae'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol, gan gynnwys rhannu, yn cael ei thrafod yn y hysbysiad hyn.

Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad ar safle Bwrdd Iechyd neu efallai y bydd sesiwn leol y gallech ei mynychu. Bydd angen i'r Bwrdd Iechyd gasglu rhywfaint o wybodaeth glinigol amdanoch chi, os nad ydynt eisoes yn meddu arni, megis a ydych wedi cael brechiad rhag y ffliw neu a oes gennych unrhyw alergeddau. Bydd y wybodaeth hon, a'ch penderfyniad i ddewis cael y brechiad, yn cael ei chofnodi yn eich cofnod meddygol ac ar System Imiwneiddio Cymru (SIC) a gedwir gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (GGGC).

Ar ôl eich brechiad, efallai y bydd eich meddyg teulu, yr Awdurdod Lleol a/neu adran Iechyd Galwedigaethol eich cyflogwr yn cael gwybod. Bydd hyn yn helpu gyda'u rhwymedigaethau cyfreithiol i reoli eich iechyd, eich lles a'ch diogelwch eich hun a phobl eraill. At yr un diben, efallai y bydd eich meddyg teulu, yr Awdurdod Lleol a/neu adran Iechyd Galwedigaethol eich cyflogwr hefyd yn cael gwybod os ydych wedi gwrthod cael y brechiad.



Pa ddata personol sy'n cael ei gasglu a'i ddefnyddio?​


Er mwyn cynorthwyo gyda'r rhaglen frechu, bydd angen i'ch Bwrdd Iechyd Lleol gasglu data personol. Gall y data y bydd yn ei gasglu amdanoch gynnwys eich:

  • enw llawn,
  • dyddiad geni,
  • rhywedd,
  • dewis iaith,
  • rhif GIG (os yn hysbys),
  • cyfeiriad llawn gan gynnwys cod post,
  • rhif ffôn,
  • cyfeiriad e-bost,
  • dewis o ddull cyfathrebu,
  • anabledd ac ethnigrwydd,
  • alergeddau,
  • statws brechu, a
  • hanes imiwneiddio.



















Bydd eich rhif ffôn symudol yn cael ei ddefnyddio i anfon negeseuon atgoffa atoch a bydd eich e-bost yn cael ei ddefnyddio fel ffordd arall o gysylltu â chi, pe bai angen.  Bydd rhywfaint o’r wybodaeth hon yn cael ei rhoi i dîm brechu'r Bwrdd Iechyd gan eich cyflogwr er mwyn i'r tîm brechu gynnig brechiad i chi, a bydd rhywfaint yn cael ei chasglu gan y tîm brechu pan fyddan nhw’n cysylltu â chi.



Am ba hyd y cedwir data personol?​​​


Bydd brechu, canlyniadau profion a gwybodaeth sy'n gysylltiedig ag unrhyw gyflyrau parhaus sy'n gysylltiedig â Covid-19 yn aros ar eich cofnod iechyd yn unol ag amserlenni cadw'r GIG.



A yw'r wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion heblaw brechiadau?​


Gellir defnyddio'r wybodaeth a gesglir gan y Bwrdd Iechyd hefyd i:

  • Ddeall achosion a thueddiadau COVID-19 er mwyn rheoli'r risgiau i iechyd y cyhoedd a rheoli ac atal lledaeniad COVID-19.
  • Nodi a deall gwybodaeth am gleifion neu ddarpar gleifion sydd â COVID-19 neu sydd mewn perygl o'i ddal.
  • Darparu gwasanaethau iechyd a lles i ddinasyddion ledled Cymru.
  • Sicrhau bod yr holl staff ym mhob gweithle yn ddiogel .
  • Ymchwil a chynllunio mewn perthynas â COVID-19 (gan gynnwys o bosibl gael gwahoddiad i fod yn rhan o dreialon clinigol).
  • Monitro cynnydd a datblygiad COVID-19.









Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?​​


Yn y lle cyntaf, bydd eich cyflogwr yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol canlynol o dan  Reoliad Cyffredinol Diogelu Data y DU (RhCDD DU)  i roi eich manylion i'r Bwrdd Iechyd Lleol er mwyn iddo gynnig brechiad i chi:

  • Erthygl 6(1)(c) – Mae prosesu'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol (Iechyd a Diogelwch) y mae'r Rheolydd yn ddarostyngedig iddi (eich cyflogwr)
  • Erthygl 6(1)(f) - Mae prosesu’n angenrheidiol at ddibenion buddiannau dilys sy’n cael eu dilyn gan y rheolydd neu drydydd parti, ac eithrio lle mae buddiannau o’r fath yn cael eu trechu gan fuddiannau, hawliau neu ryddfreiniau gwrthrych y data sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r data personol gael ei ddiogelu, yn benodol lle mai plentyn yw gwrthrych y data.  Mae Prawf Buddiannau Dilys wedi'i gymhwyso fel rhan o Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data (AEDdD) i gadarnhau bod y sail gyfreithiol hon yn cael ei chymhwyso. 








Unwaith y bydd gan y Bwrdd Iechyd y wybodaeth hon, y sail gyfreithiol y bydd yn ei defnyddio i brosesu eich data personol at ddibenion brechu o dan RhDDC DU​ yw:

  • Erthygl 6(1)(e) - Er mwyn cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth ymgymryd ag awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolydd (y Bwrdd Iechyd)



Ar gyfer data categori arbennig (data iechyd) mae angen sail gyfreithiol ychwanegol ac, yn yr achos hwn, mae dau yn berthnasol:

  • Erthygl 9(2)(h) - Rhoi meddyginiaeth, iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth ataliol neu alwedigaethol, neu reoli systemau iechyd neu ofal cymdeithasol
  • Erthygl 9(2)(i) - Rhaid i brosesu fod yn angenrheidiol er budd y cyhoedd ym maes iechyd y cyhoedd (megis diogelu rhag bygythiadau trawsffiniol difrifol i iechyd neu sicrhau safonau uchel o ansawdd a diogelwch gofal iechyd a chynhyrchion meddyginiaethol neu ddyfeisiau meddygol)




Deddfwriaeth berthnasol arall​​


Mae sawl darn arall o ddeddfwriaeth sy'n caniatáu ac yn galluogi'r sefydliadau i gasglu a defnyddio eich data. Rhai o'r prif rai yw:

  • Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Heintiau) 1984
  • Deddf y Coronafeirws 2020
  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau’r Coronafeirws) (Cymru) 2020




Cysylltiadau Defnyddiol​​


Fe welwch fanylion am sut mae'r Bwrdd Iechyd Lleol yn ymdrin â'ch holl wybodaeth drwy ymweld â wefan CIG C​ymru.

Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwynion ynghylch sut y cafodd eich data personol ei drin, dylech, yn y lle cyntaf, gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data yn eich Bwrdd Iechyd Lleol.  Ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro cysylltwch â’r:

Adran Llywodraethu Gwybodaeth 
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Llawr Gwaelod, Tŷ Woodland
Maes-y-Coed Road
Caerdydd
CF14 4TT

Ffôn: 029 2184 5624

​Os hoffech adrodd cwyn neu os ydych yn teimlo nad yw’r gwasanaeth wedi ymdrin â’ch cwyn yn foddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth​​​: ​0303 123 1113. ​
© 2022 Cyngor Caerdydd