Bydd yr asiantaeth atgyfeirio (Cyngor Caerdydd) yn prosesu'r data fel sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni budd y cyhoedd dan Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU.
Mae banciau bwyd yn defnyddio'r wybodaeth bersonol sy'n cael ei rhannu dan y cytundeb hwn i ddarparu darpariaeth fwyd frys i gleientiaid sydd mewn argyfwng ac sydd wedi cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth gan Gyngor Caerdydd. Mae'r data personol yn cael ei rannu drwy feddalwedd berchnogol sy'n eiddo i The Trussell Trust sy'n gweithredu fel rheolydd data ar wahân i Fanc Bwyd Caerdydd. Mae'r 'System Casglu Data' (SCD) yn rhaglen cwmwl sy'n cael ei defnyddio i brosesu data personol am gleientiaid sy'n defnyddio gwasanaeth banc bwyd.
I gael mwy o wybodaeth am sut mae Trussell Trust yn prosesu eich data, ewch i yr wefan.