Rydym yn cysylltu â chynnwys a ddarperir gan wefannau eraill ac yn ei ddefnyddio, ac nid yw bob amser mor hygyrch. Mae hyn yn cynnwys:
- Gwneud cais am fudd-daliadau
- Porth y Dreth Gyngor
- E-daliadau
- Rhyddid Gwybodaeth a Setiau Data
- Tai ar-lein
- Map ar-lein i-share
- Safle swyddi Cyngor Caerdydd
- Modern.gov
- Netloan - archebu ar gyfrifiadur personol
- Llyfrgell ar-lein
- Apeliadau parcio
- Porth cynlluio
- System drwyddedau
- Derbyniadau i ysgolion
- Startraq (trwyddedu)
- Startraq (gorfodi)
- Gwe-ddarlledu
- Sgwrs ar-lein
Rydym wedi dechrau trafodaethau gyda’n cyflenwyr i fynd i’r afael â materion hygyrchedd ar systemau rydym wedi’u prynu ganddynt.
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os canfyddwch unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
webdev@caerdydd.gov.ukBydd eich e-bost yn cyrraedd tîm gwe y Cyngor a fydd yn edrych ar y materion rydych yn eu disgrifio ac yn ymateb os bydd angen.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi
Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd').
Os nad ydych yn hapus gyda'r modd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn,
cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb).Rydym yn darparu Gwasanaeth Trosglwyddo Fideo trwy
Video Relay Service gan Sign Video i bobl sy’n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â rhwystr lleferydd.
Dysgwch
sut y gallwch gysylltu â Chyngor Caerdydd. Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â
Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 o’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe.
Rhestrir gweddill y meysydd diffyg cydymffurfio isod:
Mae angen i nifer fach o ddolenni cyfagos â’r un gyrchfan gael eu cyfuno.
| WCAG A 1.1.1
| 99.1%
|
Nid oes gan rai o’n delweddau destun amgen.
| WCAG A 1.1.1
| 94.6%
|
Nid yw llawer o’r priodoleddau adnabod ar ein tudalennau yn unigryw.
| WCAG A 4.1.1
| 96.6%
|
Mae rhai o benawdau ein tablau heb gwmpas.
| WCAG A 1.3.1
| 99.4%
|
Ni all darllenwyr sgrin ddefnyddio rhai o’n dolenni.
| WCAG A 4.1.2
| 99.9%
|
Nid yw rhai o’n rhestrau wedi’u hysgrifennu’n semantig fel rhestr.
| WCAG A 1.3.1
| 98.5%
|
Mae rhai o’n tudalennau’n defnyddio’r un testun dolen ar gyfer cyrchfanau gwahanol. | WCAG A 2.4.4
| 99.8%
|
Mae angen i ni ychwanegu disgrifiad at bob maes ar ein ffurflenni.
| WCAG 2.0 A 1.3.1
| 94.2%
|
Nid yw rhai o'n rheolaethau yn newid ymddangosiad wrth gael eu dewis.
| WCAG 2.0 AA 2.4.7
| 97.4% |
Mae gennym rai penawdau ar y wefan heb destun.
| WCAG 2.0 A 1.3.1
| 98.5%
|
Lapio eitemau gyda'r un enw y tu mewn i set maes.
| WCAG 2.0 A 1.3.1
| 99.4% |
Mae angen trwsio rhai o'n tablau fel nad yw'r crynodeb a'r pennawd yn union yr un fath.
| WCAG 2.0 A 1.3.1
| 99.5%
|
Mae angen i ni sicrhau bod ein rheolaethau ar ffurflenni yn cyferbynnu'n ddigonol â'u hamgylchedd.
| WCAG 2.0 AA 1.4.11
| 99.6%
|
Nid oes gan rai rheolaethau ar ein ffurflenni labeli.
| WCAG 2.0 A 1.3.1
| 99.7%
|
Mae angen i ni sicrhau bod ein holl ddolenni yn esbonio eu pwrpas.
| WCAG 2.0 A 2.4.4
| 99.8%
|
Nid yw rhai o'r rhestrau ar ein gwefan wedi'u marcio'n gywir.
| WCAG 2.0 A 4.1.1
| 99.8%
|
Mae gennym rai codau labeli ARIA ar goll ar draws y wefan.
| WCAG 2.0 A 1.3.1
| 99.9%
|
Nid ydym yn nodi penawdau ar bob PDF ar y wefan.
| WCAG 2.0 A 1.3.1
| 71%
|
Nid yw rhai o'n penawdau PDF yn dilyn trefn resymegol.
| WCAG 2.0 A 1.3.1
| 77%
|
Mae angen i ni sicrhau bod PDFs hir yn defnyddio nodau tudalen i gynorthwyo llywio.
| WCAG 2.0 AA 2.4.5
| 85%
|
Nid yw pob un o'n PDFs yn defnyddio H1 fel y pennawd cyntaf.
| WCAG 2.0 A 1.3.1
| 85%
|
Mae angen i ni sicrhau bod ein holl PDFs yn gallu cael eu prosesu gan beiriannau.
| WCAG 2.0 A 1.1.1
| 99.5%
|
Rhaid i'n holl ffeiliau PDF nodi iaith ddiofyn.
| WCAG 2.0 A 3.1.1
| 99.6%
|
Mae tagiau ar goll ar rai o'n PDFs.
| WCAG 2.0 A 1.3.1
| 99.6%
|
Mae angen i ni sicrhau bod gan bob un o'n PDFs deitl.
| WCAG 2.0 A 2.4.2
| 99.7%
|
Mae gan rai PDFs deitlau gwan y mae angen i ni eu gwella.
| WCAG 2.0 A 2.4.2
| 99.7%
|
Ein nod yw gweithio trwy’r materion sy’n weddill a restrir uchod i gyflawni cydymffurfiaeth lawn lle bynnag sy’n bosibl.
Dogfennau PDF ac eraill
Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF sydd â gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, a ffurflenni ar ffurf Word. Rydym yn bwriadu naill ai trwsio’r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni unioni dogfennau PDF nac eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu trwsio:
- Adroddiadau Cabinet
- Cofrestrau cynllunio
- Cofrestrau trwyddedu
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Rydym yn nodi lle y dylai gwybodaeth a gedwir ar PDF fod ar dudalen ar y wefan.
Paratowyd y datganiad hwn ar 23 Medi 2020.
Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 2 Awst 2023.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 31 Gorffennaf 2023. Cynhaliwyd y prawf gan
Silktide.
Rydym yn defnyddio’r gwiriwr hygyrchedd Silktide i brofi ein holl dudalennau gwe ar y parth www.caerdydd.gov.uk.
Gallwch weld
adroddiad prawf hygyrchedd llawn Cyngor Caerdydd ar wefan Mynegai Silktide.
Ein nod yw adnabod a thrwsio materion yn yr amserlenni a nodir uchod.
Byddwn yn parhau i siarad â darparwyr trydydd parti i weld pa welliannau y gellir eu gwneud i'w systemau.
Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 10 Awst 2023.