Meiri Cynnar Caerdydd
Nodir yng Nghofnodion y Fwrdeistref Sirol mai Maer cyntaf Caerdydd oedd Ralph “Prepositus de Kardi” a ddechreuodd ar ei swydd yn 1126.
Mae’r teitl “Maer” yn gamarweiniol fodd bynnag, gan mai llywodraethwr milwrol ar Gastell Caerdydd oedd yn anad dim. Arhosodd cysylltiad agos rhwng y Faeryddiaeth a’r Castell am dros 700 mlynedd. William Herbert, Maer yn yr unfed ganrif ar bymtheg, oedd “Cwnstabl, Porthor, Stiward a Siambrlen Caerdydd”, ac roedd ganddo sawl swydd arall yn ogystal.
Arglwydd y Castell oedd yn penodi Maer y dref (yn ogystal â’r Aelod Seneddol), a byddai’n sicrhau mai ei Gwnstabl a fyddai'n cael y swydd hon. Parhaodd y trefniant ffiwdal hwn, y profwyd yn ddiweddarach nad oedd iddo unrhyw sail gyfreithiol, tan 1835 pan ddaeth y Ddeddf Corfforaethau Dinesig i rym.
Y Maer Etholedig Cyntaf
Yn 1835, yn ystod Arglwyddiaeth ail Ardalydd Bute, cynhaliwyd etholiadau cyntaf y cyngor. Yng nghyfarfod cyntaf y cyngor newydd, daeth Thomas Revel Guest yn Faer etholedig cyntaf Caerdydd, ac o ganlyniad yn Farnwr Llys Cofnodi’r Fwrdeistref.
Ychydig iawn o ddisgrifiadau o ddyletswyddau’r Maer yn y ddeunawfed ganrif sydd ar gael, ond mae’n sicr eu bod yn cynnwys llywyddu mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn Neuadd y Dref, yn ogystal â gweinyddu Deddf y Tlodion drwy roi prentisiaeth i blant, mynd i’r afael â chardota, ac ystyried problemau’r anghenus.
Byddai’r agenda hefyd wedi cynnwys ymweliadau rheolaidd â Charchar y Sir ac arwain grwpiau swyddogol oedd yn sicrhau bod rheoliadau newydd yn cael eu dilyn yn y Fwrdeistref. Mae’n debyg y gellid tybio fod hyn wedi bod yn digwydd ers sawl blwyddyn cyn 1835, ac mai ychydig yn unig o effaith a gafodd y Ddeddf Corfforaethau Dinesig ar waith y Maer.
Erbyn diwedd y ganrif, roedd y Maer yn gynyddol amlwg fel prif gynrychiolydd y dref mewn digwyddiadau swyddogol. Mae’r rhestr o ddigwyddiadau ar gyfer Maeryddiaeth S. A. Brain (Maer 1899-1900) yn dangos iddo fod yn rhan o ymweliad gan Weinidog Mewnol Canada, gwrthdystiad "Cymorth i Mafeking", seremoni i roi Rhyddid Anrhydeddus y Fwrdeistref Sirol i’r Uwchfrigadydd Baden-Powell a “gwledd i 3,000 o grwydriaid a phlant digartref yn Neuadd y Parc”.
Roedd meiri’r cyfnod hwn yn frwd dros drefnu digwyddiadau elusennol, ac roedd rhan o ‘gyflog’ y Maer yn cael ei gadw i'w roi i elusennau.
Arglwydd Faer Cyntaf Caerdydd
Pan gafodd Caerdydd statws dinas yn 1905, daeth Prif Ddinesydd Caerdydd yn 'Arglwydd Faer'. Ail-etholwyd Robert Hughes, a fu’n Faer yn 1904, yn Arglwydd Faer cyntaf Caerdydd y flwyddyn ddilynol. Byddai gan yr Arglwydd Faer statws "Y Gwir Anrhydeddus" – dim ond Arglwydd Feiri Llundain, Belfast ac Efrog sydd hefyd â’r teitl cwrteisi hwn.