Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Rheoli Chwyn

​​Cyngor Caerdydd sy'n gyfrifol am reoli'r holl chwyn a geir ym mharciau, ystadau tai a phriffyrdd mabwysiedig y ddinas.  

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn caniatáu defnyddio plaladdwyr sy'n cynnwys glyffosad.   

Mae Cyngor Caerdydd yn cymryd materion amgylcheddol o ddifri ac amcan y Cyngor o hyd yw lleihau'r defnydd o blaladdwyr. Fel rhan o'n Polisi Amgylcheddol​, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynnal asesiad parhaus o arferion presennol ac arferion y dyfodol er mwyn lleihau effaith camau gweithredu ar genedlaethau'r dyfodol ac ar yr amgylchedd.   ​​​​​

 
Lle y gallwn, byddwn yn gweithio i leihau'r defnydd o blaladdwyr tra'n parhau i ddarparu gwasanaeth cost-effeithiol ac effeithlon o ansawdd uchel.   
 
Mae'r lleihad hwn yn cael ei gyflawni drwy:  
 
  • Weithio gyda'n contractwr i gyflwyno technoleg arbenigol 
  • Defnyddio adjiwfantau i leihau faint o blaladdwyr sydd eu hangen 
  • Gwerthuso triniaethau amgen ac arferion diwylliannol i nodi eu potensial o fewn cyfyngiadau deddfwriaeth a'r adnoddau sydd ar gael.   

 

Ar hyn o bryd mae'r Contractwr yn defnyddio Glyffosad Amenity Monsanto, nad yw'n cynnwys unrhyw rybuddion perygl ar ei label, ac mae wedi'i gymeradwyo i'w ddefnyddio ar dir cyhoeddus gan y Gyfarwyddiaeth Diogelwch Plaladdwyr sy'n gangen o'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. 

Yn ystod 2022 fe wnaeth ein contractwr ddefnyddio 3458 litr o'r cynnyrch hwn i gyflawni'r rhaglen waith. 

 


Gweld gwybodaeth am Clymog Japan.​

Sut olwg sydd ar Glymog Japan? ​​  

  • Ym mis Mawrth neu ddechrau mis Ebrill, mae egin coch-borffor yn ymddangos.  
  • Mae gan y planhigyn ddail siâp calon nodedig all fod yn 12cm o hyd.  
  • Erbyn mis Mehefin, gall y clystyrau fod yn 2-3m o daldra. 
  • Mae clystyrau o flodau hufennog yn ymddangos o fis Awst i fis Hydref.   
  • Yn y gaeaf mae'r dail a'r saethau'n marw'n ôl gan adael clystyrau o goesynnau gweigion.  



Pam fod hwn yn broblem? ​​

Nid yw Clymog Japan yn tarddu o'r Deyrnas Gyfunol. Nid yw'n cystadlu'n deg â'n rhywogaethau brodorol ac mae'n gallu lledaenu’n ddi-atal. Er nad yw Clymog Japan yn wenwynig i bobl, anifeiliaid neu blanhigion eraill, mae'n cynnig cynefin gwael i bryfed, adar a mamaliaid brodorol. Gall y planhigyn hwn achosi difrod i fannau arwyneb caled, a gall strwythurau syml fel waliau gael eu heffeithio hefyd os yw'r planhigyn yn tyfu gerllaw.  

 

Rhwymedigaethau cyfreithiol i gael gwared ar Glymog Japan  ​​

Nid oes unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gofyn am ddileu Clymog Japan, ond mae'r canlynol yn rhoi rhai rheolaethau:   

  • Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (1981) yn datgan ei bod yn drosedd plannu neu achosi i Glymog Japan dyfu yn y gwyllt.   
  • Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd (1990) yn nodi bod torri deunydd clymog a deunydd pridd sy'n cynnwys deunydd rhism (gwraidd) yn cael eu dosbarthu fel gwastraff rheoledig a bod yn rhaid eu gwaredu'n ddiogel ar safle tirlenwi trwyddedig os cânt eu symud o'r safle gwreiddiol. Ni ddylid ei roi yn yr ailgylchu gwastraff gwyrdd na'i gludo i safleoedd tirlenwi, ac eithrio gan gontractwr gwastraff trwyddedig ac wedi hysbysu’r safle tirlenwi trwyddedig.  
     

Ymgyfreitha trydydd parti

Gellir erlyn tirfeddianwyr am gostau neu iawndal os byddant yn methu ag atal Clymog Japan rhag lledaenu i eiddo cyfagos. Hefyd, gall methu â rheoli a gwaredu'r planhigyn yn gyfrifol arwain at erlyniad. Os yw Clymog yn effeithio arnoch o eiddo cyfagos, mae angen i chi weithredu cyn iddo agosáu at eich adeiladau.    

Sut i gael gwared ar y Clymog ​​ 

Mae 2 ddull y gellir eu hystyried:   

  • Cloddio ​

Yn gyffredinol, nid yw hyn yn ateb realistig ar gyfer gerddi domestig - mae'n ffordd gyflym ond drud o ddelio â'r broblem.  Dylai'r pridd gael ei gloddio'n llwyr i ddyfnder o tua 3 metr a'i waredu gan gludwr cymeradwy sy'n defnyddio cludiant wedi'i selio i safle tirlenwi sydd wedi'i drwyddedu i ymdrin â'r gwastraff arbennig hwn.   


  • Chwistrellu gyda chwynladdwr cymeradwy ​  

Mae'r chwynladdwr mwyaf effeithiol i'w ddefnyddio gyda Chlymog Japan yn cynnwys y cynhwysyn gweithredol Glyffosad. Ceir hwn mewn amrywiaeth o chwynladdwyr sydd ar gael i'r garddwr domestig. 

Mae Glyffosad yn effeithiol ar Glymog Japan er nad yw'n lladd y planhigyn ar unwaith. Mae'r cemegyn yn cael ei amsugno drwy'r dail a'i gymryd i mewn i'r system wreiddiau. Rhaid defnyddio hwn yn unol ag argymhellion y gwneuthurwr, ac mae'n bwysig sylweddoli y bydd hefyd yn lladd unrhyw blanhigion eraill sy'n tyfu'n agos at y Clymog os cânt eu chwistrellu hefyd. 

Er mwyn gwneud y mwyaf o effaith y cemegyn, mae'n well chwistrellu ym mis Medi a dechrau mis Hydref pan fydd y planhigyn yn dal i dyfu.  Mae hyn yn cynyddu cyfaint y plaladdwyr sy'n cael ei amsugno gan y planhigyn, sy'n mynd ag ef i'r system wreiddiau wrth i dwf arafu tuag at y gaeaf.   

Os oes ardal rhy fawr i chi ei chwistrellu eich hun, neu os byddai'n well gennych ddefnyddio cwmni arbenigol dylech ymgysylltu â chontractwr sydd wedi'i achredu gan PCA a chan Amenity Assured.

Sylwch, hyd yn oed ar ôl trin y planhigyn fel hyn am sawl blwyddyn, mae'n dal yn bosibl i rywfaint o'r system wreiddiau barhau'n hyfyw yn ddwfn yn y pridd ac i'r planhigyn ailymddangos o fewn 5 mlynedd i'r gwaith chwistrellu.   

Os yw'r planhigyn yn tyfu mewn mwy nag un eiddo bydd angen i chi sicrhau bod pob ardal yn cael ei thrin i atal ail-heintio o dir cyfagos.    

Sut i gael gwared ar Glymog Japan o ardd  ​

Mae coesynnau a gwreiddiau'r gwaith hwn yn cael eu dosbarthu fel gwastraff arbennig, ac mae hyn yn golygu na all trigolion preifat eu cludo i'r safle Amwynder Dinesig na'u hychwanegu at y casgliad gwastraff gwyrdd ar garreg y drws.    

Gallwch gael gwared ar y gwastraff naill ai drwy adael y deunydd yn sych a pydru ar eich tir eich hun neu losgi'r deunydd planhigion ar y safle yn drylwyr (mae'n drosedd tynnu'r deunydd i dir arall o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990).    

Er bod llosgi'n ffordd effeithiol o waredu, dylid rhoi sylw i faint, lleoliad ac amseriad unrhyw dân, gan y gall mwg o safleoedd fod yn niwsans statudol o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.  Cysylltwch â'r gwasanaeth Rheoli Llygredd ar 02920 871650 i gael rhagor o gyngor ar losgi.   

Beth i'w wneud os oes gennych Glymog Japan yn dod o dir cyfagos ​

Mae angen i chi gysylltu â'r tirfeddiannwr a gofyn iddynt gymryd camau rhesymol i reoli'r planhigyn ar eu tir, gan leihau'r posibilrwydd y bydd yn lledaenu i'ch tir chi. Dechreuwch gyda thrafodaethau cyfeillgar, ond os nad yw hynny'n mynd i unman, holwch eich cwmni yswiriant adeiladau (bydd rhai yn gweithredu ar eich rhan mewn materion o'r fath) neu ymgynghorwch â chyfreithiwr. 



 ​

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch parciau@caerdydd.gov.uk​​

 


© 2022 Cyngor Caerdydd